Rhagolwg Cymru Premier

Hanner ffordd trwy rhan cyntaf y tymor a'r Seintiau Newydd sy’n parhau i osod y safon, saith pwynt yn glir ar y copa.
Ond yng nghanol y tabl bydd y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf yn dechrau cynhesu gyda dim ond pedwar pwynt yn gwahanu’r saith clwb rhwng y 4ydd a’r 10fed safle.
Dydd Sadwrn, 6 Tachwedd
Met Caerdydd (6ed) v Caernarfon (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Dim ond pwynt sy’n gwahanu’r ddau dîm yma yn y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf.
Cafodd Met Caerdydd grasfa gan Y Seintiau Newydd ddydd Sadwrn (5-0), a bydd Dr Christian Edwards yn mynnu ymateb gan y myfyrwyr y penwythnos hwn.
Mae Caernarfon wedi colli eu pedair gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, ond gall Huw Griffiths gymryd hyder o’r ffaith bod y Cofis wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn y myfyrwyr.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ✅❌✅➖❌
Caernarfon: ➖✅❌❌❌
Y Barri (8fed) v Aberystwyth (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae hi wedi bod yn ddechrau rhwystredig i’r tymor i Aberystwyth sydd bellach bedwar pwynt o dan diogelwch y 10fed safle ar ôl colli wyth o’u 11 gêm gynghrair.
Mae sgorio goliau yn broblem ddifrifol i Aberystwyth gan bod y Gwyrdd a’r Duon ond wedi rhwydo chwe gôl mewn 11 gêm gynghrair, a does neb wedi sgorio mwy nac unwaith i dîm Antonio Corbisiero.
Daeth dwy o’u chwe gôl gynghrair yn eu buddugoliaeth 2-1 yn erbyn Y Barri ar benwythnos agoriadol y tymor.
Mae’r Barri wedi gorffen yn y Chwech Uchaf ym mhob un o’r tri tymor diwethaf a bydd Gavin Chesterfield yn benderfynol o ddringo’r tabl cyn yr hollt.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌❌❌➖✅
Aberystwyth: ❌❌✅❌❌
Y Fflint (2il) v Pen-y-bont (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd hi’n dipyn o gêm ar Gae-y-Castell rhwng dau dîm sydd wedi gosod eu marc ar y gynghrair eleni.
Mae’r Fflint driphwynt uwchben Y Drenewydd yn y ras am yr ail safle, tra bod Pen-y-bont wedi codi i’r 4ydd safle ar ôl colli dim ond un o’u 10 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.
Ar gyfartaledd, mae 30 pwynt wedi bod yn ddigon i orffen yn y 6ed safle ar yr hollt ers 2010/11, a gyda’r Fflint wedi casglu 22 pwynt yn barod mae’n edrych yn addawol i fechgyn Neil Gibson.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌✅✅➖✅
Pen-y-bont: ➖❌✅✅✅
Y Seintiau Newydd (1af) v Hwlffordd (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl gorffen y ddau dymor diwethaf yn waglaw mae’r gwynt yn ôl yn hwyliau’r Seintiau Newydd gyda’r clwb saith pwynt yn glir o’r gweddill wedi 11 gêm.
Mae tîm Anthony Limbrick wedi ennill eu 11 gêm ddiwethaf yn Neuadd y Parc a dyw’r Seintiau heb golli gartref yn erbyn Hwlffordd ers 2003.
Mae’r Adar Gleision wedi codi o safleoedd y cwymp ar ôl colli dim ond un o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf, gan ennill pedair yn ystod y rhediad hwnnw.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅➖✅
Hwlffordd: ➖✅❌✅✅