Newyddion S4C

Mei Jones yr actor a chyd-awdur ‘C’mon Midffîld' wedi marw

05/11/2021
Mei Jones

Mae Mei Jones yr actor, sgriptiwr ac awdur rhai o gymeriadau comedi mwyaf hoffus a chofiadwy yn y Gymraeg, wedi marw yn 68 oed.

Fe fydd yn cael ei gofio’n bennaf am gyd-greu ac actio’r cymeriad Walter ‘Wali’ Tomos yn y gyfres gomedi ‘C’mon Midffîld!’ ar y radio, ac yna mewn cyfresi hynod boblogaidd ar S4C yn ddiweddarach.

Roedd wedi dioddef cyfnod o salwch.

Yn frodor o Ynys Môn, cafodd Myrddin Henryd Jones ei eni ar dyddyn yn Llanddona, cyn i’r teulu symud i Lanfairpwll.

Dangosodd ddiddordeb ym myd y bêl gron o’i ddyddiau cynnar. Fe chwaraeodd i dimau Bangor, Amlwch a Biwmares, a chael ei ddewis i chwarae pêl-droed i dîm ysgolion Gymru.

Roedd hefyd yn eisteddfodwr brwd gydag annogaeth ei fam ac fe gafodd gryn lwyddiant.

Addysg ag actio

Aeth i Ysgol Syr David Hughes ym Mhorthaethwy, cyn mynychu’r Coleg ger y Lli yn Aberystwyth gan ddilyn cwrs mewn diwinyddiaeth.

Yn ystod y cyfnod yma roedd yn un o aelodau gwreiddiol y grwp poblogaidd Mynediad am Ddim ac fe berfformiodd ar eu record gyntaf.

Gadawodd Aberystwyth a dilyn cwrs perfformio Cymraeg yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd yng nghwmni y diweddar Sion Eirian ac eraill.

Image
Wali Tomos
Mei Jones yn chwarae rhan y cymeriad Wali Tomos yn 'C'mon Midffîld!' Llun:S4C

Dechreuodd ar yrfa ym myd actio, sgriptio a chyfarwyddo yn 1976 - i ddechrau gyda Chwmni Theatr Cymru, cyn dod yn un o aelodau cyntaf Theatr Bara Caws gyda Valmai Jones, Dyfan Roberts, Iola Gregory a Catrin Edwards.

Pan ddechreuodd S4C bu'n cymryd rhannau blaenllaw yn ffilmiau yr awdur Emyr Humphreys a'i fab Sion ac yn y gyfres o raglenni dogfen Almanac.

Trodd ei sylw at fyd darlledu, ac ar donfeddi Radio Cymru bu’n rhan o dîm ‘Wythnos i’w Anghofio’ a ‘Pupur a Halen’.

Yn ystod yr wythdegau bu'n actio cymeriadau mewn nifer o ddramâu gan gynnwys ‘Hufen a Moch Bach’, ‘Anturiaethau Dic Preifat’ a ‘Wastad Ar Y Tu Fas’.

Bydd ei waith ar y cyd ag Alun Ffred Jones o ddod â chymeriadau comedi eiconig Wali Tomos, Mr Picton, Sandra, George, a Tecwyn ‘Tecs’ Parri yn fyw ar gyfres ‘C’mon Midffîld!’ yn aros yn hir yn y cof i genedlaethau o Gymry.

Darlledwyd tair cyfres ar Radio Cymru o Fangor gydag Elwyn Jones yn cynhyrchu, gan dderbyn ymateb brwd gan y gynulleidfa.

Cafodd y gyfres deledu ei darlledu’n gyntaf ar y sgrîn fach yn 1988, ac fe ddarlledwyd pum cyfres, dwy ffilm ag un rhaglen Nadolig arbennig cyn i helyntion pentrefwyr Bryn Coch ddirwyn i ben.

Ond, drwy ei hiwmor bachog a naturiol, fe fydd rhai o ddywediadau enwocaf y gyfres yn parhau yn fyw ar lawr gwlad am flynyddoedd i ddod.

Image
Wali tomos
Wali Tomos (Mei Jones) a'i fam Lydia Tomos (Catrin Dafydd) wyneb yn wyneb ar set 'C'mon Midffîld'. Llun: S4C

Enillodd Mei Jones ac Alun Ffred Jones wobr 'Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrin - Cymreig' BAFTA Cymru ar gyfer y gyfres gomedi eiconig hon yn 1992.

Yn 1990, cafodd Mei Jones ei arestio gan yr heddlu ar amheuaeth o chwarae rhan yn yr ymgyrch losgi tai haf – ynghyd ag un o aleodau eraill cast ‘C’mon Midffîld!’, Bryn Fôn a’r actor Dyfed Thomas. Cafodd y tri eu rhyddhau’n ddi-gyhuddiad yn ddiweddarach.

‘Awdur dawnus a sgriptiwr gwreiddiol’

Mewn teyrnged iddo, dywedodd Alun Ffred Jones wrth Newyddion S4C: "Roedd Mei yn actor dawnus a scriptiwr gwreiddiol oedd yn rhoi o'i orau bob amser ac yn disgwyl hynny gan bawb oedd yn cydweithio ag o.

“Mi allai, ac efallai y dylai, fod wedi ysgrifennu rhagor ond gallwn ddiolch am yr hyn a gafwyd. Mi wnaeth gyfraniad sylweddol iawn i'r byd adloniant Cymraeg."

Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: “Bydd ein gwylwyr yn fythol ddiolchgar i Mei am C’mon Midffîld a Wali gan fod y ddrama a’r cymeriad ymysg trysorau mwya’r sianel.

“Cyhyd ag y bydd Wali’n rhedeg y linell gyda’i faner ni eith Mei byth yn angof.”

Mae’n gadael pedwar o blant, Ela, Lois, Steffan ac Aaron a tri o wyrion.

Prif lun: S4C/Huw John

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.