
Teyrngedau i dri o bobl fu farw mewn digwyddiad ar afon yn Sir Benfro
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i dri o bobl fu farw mewn digwyddiad ar afon yn Sir Benfro ddydd Sadwrn.
Bu farw Morgan Rogers 24, o Ferthyr Tudful, Nicola Wheatley, 40, o Bontarddulais a Paul O'Dwyer, 42 o Bort Talbot wedi'r digwyddiad ar Afon Cleddau yn nhref Hwlffordd.
Roedd Nicola Wheatley wedi gweithio i Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ers dros 15 mlynedd.
Dywedodd ei theulu fod Nicola yn berson "prydferth, gofalgar, a doniol" a'i bod wedi gadael "bwlch na ellir ei lenwi".

Dywedodd teulu Morgan Rogers ei bod hi'r "gorau y medrai fod" ac y byddai ei theulu yn "gweld ei heisiau'n fawr".

Mae teulu Paul O'Dwyer wedi ei ddisgrifio fel dyn "ffyddlon" a gododd arian at wahanol elusennau ar hyd y blynyddoedd.
Mae ei deulu wedi diolch am y "negeseuon caredig" maen nhw wedi ei dderbyn mewn cyfnod o "dristwch mawr".

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ychydig wedi 9:00 fore Sadwrn ac mae menyw arall yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Bu naw o bobl yn rhan o weithgaredd padlfyrddio ar yr afon cyn iddyn nhw fynd i drafferthion.
Cafodd pump o bobl eu hachub o'r afon heb anafiadau.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i union amgylchiadau'r digwyddiad ar yr afon.
Mae'r llu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a fedrai fod o gymorth i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.