Newyddion S4C

Teyrnged i ddyn 22 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhort Talbot

02/11/2021
S4C

Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhort Talbort ddydd Sadwrn wedi rhoi teyrnged iddo.

Dywedodd teulu Christopher Howells, 22 oed o Gimla, Castell-nedd y bydd yn cael ei golli yn fawr gan lawer.

“Roedd yn fab, brawd, ewythr a ffrind annwyl ac yn ddyn unigryw, hyderus oedd yn chwerthin yn aml.”

Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd rhwng car Mazda MX-5 gwyrdd a Ford Fiesta coch, ar y B4287 yn Efail Fach, Pontrhydyfen am oddeutu 7:30. 

Mae dyn 27 oed wedi dioddef anafiadau difrifol.

Mae Heddlu’r De yn apelio ar unrhyw a allai fod o gymorth i gysylltu gan ddefnyddio cyfeirnod 380974.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.