Dynes leol mewn cyflwr difrifol ar ôl gwrthdrawiad ger Abermaw yng Ngwynedd
01/11/2021Mae dynes 27 oed mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei hanafu mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A496 ger Abermaw yng Ngwynedd nos Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad ger goleuadau traffig dros dro rhwng Abermaw a Dolgellau am 20:10.
Fe gafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Gwynedd i ddechrau ond mae hi bellach wedi ei symud i Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke.
Darllenwch y stori'n llawn gan Golwg360 yma.
