Newyddion S4C

Crasfa i Gymru gan y Crysau Duon

30/10/2021
Cymru v Seland Newydd

Colli bu hanes Cymru yn erbyn Seland Newydd yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

Dyma oedd y gêm gyntaf yn y stadiwm gyda thorf lawn ers dechrau’r pandemig ac roedd tua 70,000 o bobl yn bresennol i weld Cymru’n cael eu trechu, gyda’r ceisiadau yn pentyrru i Seland Newydd yn yr ail hanner.

Ac er cais hyfryd gan Johnny Williams, roedd Cymru yn ei chael hi’n anodd lleihau’r bwlch ar y sgorfwrdd, gyda’r ail hanner yn sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i’r Crysau Duon.

Gadawodd y Capten Alun Wyn Jones y cae oherwydd anaf gydag ond 19 munud ar y cloc.

Y sgôr terfynol?  Cymru 16 – 54 Seland Newydd.

Image
Alun Wyn Jones Anaf
Derbyniodd y Capten Alun Wyn Jones, gymeradwyaeth gan y dorf, wrth iddo adael y cae oherwydd anaf.  
Llun: Asiantaeth Huw Evans

Hanner cyntaf addawol

Dechrau da gafodd yr ymwelwyr wrth i Beauden Barrett sgorio cais rhwng pyst Cymru, gan osod y safle’n wych ar gyfer trosiad llwyddiannus gan ei frawd Jordie, gyda dim ond pedair munud ar y cloc.

Doedd hi ddim yn hir cyn i Gymru daro ‘nôl gyda Gareth Anscombe yn llwyddo i gael cic gosb dros y pyst dwy funud yn ddiweddarach.  Cymru 3 – 7 Seland Newydd.

17 munud ers dechrau’r gêm ac mae Jordie Barrett yn ychwanegu at gyfanswm Seland Newydd gyda chic gosb wrth i Gymru gael eu cosbi.

Gydag 19 munud ar y cloc, fe adawodd Alun Wyn Jones y cae gydag anaf, gyda chymeradwyaeth y dorf o tua 70,000 yn Stadiwm Principality yn dangos eu gwerthfawrogiad i’r Capten.

25 munud ers i’r gêm ddechrau ac mae Jordie Barrett yn llwyddo i ychwanegu tri phwynt arall at gyfanswm Seland Newydd drwy gic gosb, yn dilyn ymgais aflwyddiannus munudau ynghynt.  Cymru 3 – 13 Seland Newydd.

Yna mae TJ Penerara yn dod i ledaenu’r bwlch rhwng y Crysau Duon a’r Crysau Cochion, gan sgorio ail gais y gêm gyda 35 munud wedi mynd.  

Mae ymgais aflwyddiannus i drosi yn gadael y sgôr yn Cymru 3 – 18 Seland Newydd.

39 munud ers dechrau’r gêm ac mae’r dyfarnwr yn dangos ei garden felen gyntaf a honno i Nepo Laulala o garfan Seland Newydd.

Mae’r cloc wedi troi’n goch ar ddiwedd yr hanner cyntaf ond munud mewn i’r amser ychwanegol mae Gareth Anscombe yn sgorio ei ail gic gosb.  

Y sgôr ar yr hanner Cymru 6 – 18 Seland Newydd.

Image
Johnny Williams - Cais
Un cais oedd i fod i Gymru, a hynny drwy law Johnny Williams. 
Llun: Asiantaeth Huw Evans

Seland Newydd yn pentyrru'r pwyntiau

Wrth i’r chwarae ail-ddechrau ar gyfer yr ail hanner, mae Jordie Barrett yn sgorio tri phwynt arall i’w wlad 46 munud ers i’r gêm ddechrau.

Ond, mae Rhys Priestland yn taro ‘nôl gyda chic gosb lwyddiannus gyda 51 o funudau’r gêm wedi eu chwarae.  Cymru 9 – 21 Seland Newydd.

55 munud ers dechrau’r gêm ac mae Will Jordan yn llwyddo i groesi’r llinell gan sgorio cais arall i Seland Newydd, gyda throsiad llwyddiannus yn dilyn yn fuan.  Cymru 9 – 28 Seland Newydd.

60 munud a nawr mae pethau’n dechrau poethi i Gymru wrth i Johnny Williams sicrhau cais a hanner, gyda’r trosiad hefyd yn llwyddiannus.  Cymru 16 – 28 Seland Newydd.

Ond gyda 64 munud wedi mynd mae Seland Newydd yn brwydro ‘nôl i ymestyn y bwlch unwaith eto, gyda Dalton Papalii yn brwydro drwy amddiffyn Cymru i sgorio cais dros y Crysau Duon a throsiad llwyddiannus yn coroni ei ymdrechion.

Nid yw Seland Newydd yn barod i orffwys ar eu rhwyfau gyda Sevu Reece yn sicrhau pumed cais y wlad gyda 67 munud ar y cloc.  

Mae’r trosiad yn llwyddiannus hefyd gan olygu fod y sgôr ar y sgorfwrdd yn Cymru 16 – 42 Seland Newydd.

Mae’r ceisiadau yn dal i ddod i Seland Newydd nawr a gyda 71 munud o’r gêm wedi mynd mae Anton Lienert-Brown yn sicrhau chweched cais ei wlad.  

Mae Seland Newydd yn cyflawni’r tri phwynt ychwanegol gyda’r sgôr erbyn hyn yn Cymru 16 – 49 Seland Newydd.

Gydag eiliadau’n weddill o’r gêm mae Beauden Barrett yn sgorio cais arall i Seland Newydd gan sicrhau pwyntiau agoriadol a phwyntiau olaf y gêm i'r Crysau Duon.

Er i’r trosiad fod yn aflwyddiannus, mae’n siŵr y bydd Seland Newydd yn ddigon hapus gyda'r canlyniad yng Nghaerdydd.

Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.