Newyddion S4C

Galwadau i wahardd rasio milgwn yng Nghymru

29/10/2021

Galwadau i wahardd rasio milgwn yng Nghymru

Mae ymgyrchwyr yn galw am wahardd y gamp o rasio milgwn yng Nghymru, gan ddadlau fod cŵn yn cael eu hanafu’n gyson wrth gymryd rhan mewn rasys.

Un sydd yn credu fod rasio milgwn yn gamp “greulon” yw Beca Brown o Lanrug. Mae hi wedi mabwysiadu milgi oedd yn arfer cael ei ddefnyddio i rasio, cyn i’w gyn-berchennog benderfynu nad oedd yn ddigon cryf i gystadlu.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Mae yna gymaint ohonyn nhw yn cael eu hanafu wrth redeg ar y traciau yma, achos bo’ nhw’n gorfod rhedeg mewn cylch.”

Yn ôl ffigyrau newydd gan Fwrdd Milgwn Prydain roedd 3,575 o anafiadau ar draciau rasio yn 2020, gyda 200 o farwolaethau ar draciau rasio a 201 oddi ar y trac.

Llynedd roedd dros 7,000 o filgwn rasio wedi ‘ymddeol’, a chafodd dros 5,000 eu hailgartrefu gan sefydliadau lles anifeiliaid.

“Dyna ydi hanes milgwn mae arna i ofn, ma’ nhw’n cael eu cadw i rasio tra bod nhw’n ennill ac yn llwyddo ac wedyn maen nhw’n cael ei tyrffio allan yn y bôn”, meddai Ms Brown.

“Pam ti’n gwylio ras ma’r cŵn yn dueddol i bynshio tuag at y corneli ac wedyn maen nhw gyd yn mynd ar draws ei gilydd, ac maen nhw’n torri eu coesau ac ati. Mae yna anafiadau erchyll yn digwydd.

“Mae canolfannau achub cŵn yn llawn efo milgwn, oherwydd yn amlwg os wyt ti isio bridio ci llwyddiannus sydd yn ennill ma’ rhaid i chdi fridio lot o honyn nhw er mwyn ffeindio'r un sydd yn mynd i neud pres i ti.”

Ychwanegodd: “’Sa well gennai weld llai o filgwn o gwmpas y lle a bod nhw mewn cartrefi, na bod nhw mewn canolfannau achub yn disgwyl i gael cartref.”

Wrth siarad gyda Newyddion S4C dywedodd Meg Williams o elusen Hope Rescue: “Mae nifer y cŵn dros ben o’r diwydiant rasio milgwn yn rhoi straen enfawr ar y sector lles anifeiliaid, ar adeg lle mae'r sector yn wynebu argyfwng yn dilyn cynnydd enfawr yn nifer y cŵn cafodd eu prynu yn ystod y cyfnod clo.”

‘Milgwn fel athletwyr proffesiynol’

Mae rasio cŵn yn gamp sydd wedi’i datblygu o’r 18fed ganrif ac mae David Cartwright o’r cymoedd am ei weld yn parhau yng Nghymru.

“Dwi’n dod i boeni ein bod ni yn mynd i golli camp gyda hanes yng Nghymru,” meddai Mr Cartwright.

Image
David Cartwright
Mae gan David Catrwright dri milgi mae’n rasio bob penwythnos yn Ystrad Mynach, yr unig drac yng Nghymru.

“Mae pob milgi fel athletwyr proffesiynol, achos dyna beth ydyn nhw, yn cael niggles ac ati. Dwi wedi gweld rhai yn torri asgwrn, ond ar y cyfan ‘da ni’n sôn am gamp sy’n ddiogel iawn.

“Ma' rhaid i chi feddwl, ydw’i am fod yn greulon i gi ar ôl i mi fuddsoddi cymaint o arian? Mae’r ci yn werth mwy nag unrhyw beth arall sydd bia fi. Mae hi werth mwy na fy nghar.

“Dwi jysd mewn cariad yn gwylio hi’n rhedeg ac yn rasio ac yn mwynhau beth mae hi wedi cael ei magu i’w wneud.”

Ond mae Beca Brown yn poeni am sgil effeithiau seicolegol mae’r rasio yn ei gael ar filgwn.

“Pam ddoth Nel (y ci) atom ni, oedd hi’n ofnus iawn iawn iawn, oedd hi’n dawel.

“Mae hi’n parhau i fod ofn mynd trwy ddrysau, achos pam mae cŵn yn rasio neu gwneud y treialon rasio ma’ nhw’n cael ei stwffio mewn i’r trap, y bocsys bychan ar gychwyn ras.”

Mae deiseb gan Hope Rescue sy’n galw ar rasio milgwn i gael ei wahardd yng Nghymru wedi derbyn bron i 20,000 o lofnodion hyd yma.

Ond i ddilynwyr y gamp fel David Cartwright, fe fyddai atal rasys yn golygu colli darn pwysig o dreftadaeth y cymoedd am byth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.