Wayne Pivac yn cyhoeddi carfan rygbi Cymru i herio Seland Newydd 

28/10/2021
Wayne Pivac yn ystod ymarfer tîm rygbi Cymru

Mae Wayne Pivac wedi cyhoeddi manylion carfan rygbi Cymru fydd yn herio Seland Newydd nos Sadwrn. 

Dyma fydd gêm gyntaf Cymru yng Nghyfres yr Hydref, gyda’r gemau i gyd yn digwydd yn Stadiwm Principality. 

Mae dewis Pivac wedi ei gyfyngu gan fod nifer o chwaraewyr y garfan yn absennol oherwydd anaf. 

Ar ôl cyhoeddi mai Ken Owens fyddai'n dechrau yng nghrys rhif dau, bydd Ryan Elias yn cymryd ei le ar ôl i Owens fethu prawf ffitrwydd.

Y Tîm: Johnny McNicholl; Owen Lane, Jonathan Davies, Johnny Williams, Josh Adams; Gareth Anscombe, Tomos Williams; Wyn Jones, Ryan Elias, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (c), Ross Moriarty, Taine Basham, Aaron Wainwright.

Eilyddion: Rhys Carre, Dillon Lewis, Will Rowlands, Seb Davies, Gareth Davies, Rhys Priestland, Ben Thomas.

Mae’r gic gyntaf am 17:15 ddydd Sadwrn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.