Cerflun o HM Stanley i aros yn nhref Dinbych wedi pleidlais gyhoeddus
Mae trigolion Dinbych wedi pleidleisio o blaid cadw cerflun o ffigwr dadleuol yn y dref.
Roedd y bleidlais yn rhoi cyfle i drigolion Dinbych benderfynu a ddylid cadw cerflun o’r anturiaethwr HM Stanley sydd ar hyn o bryd i’w weld o flaen llyfrgell y dref.
Ond mae’r cerflun wedi hollti barn ymysg aelodau yn y gymuned oherwydd cysylltiad HM Stanley gyda Leopold II, Brenin Gwlad Belg a’r driniaeth ddifrifol tuag at bobl Y Congo.
Yn gynharach fis Hydref, cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal oedd yn cynnwys holiadur yn gofyn i’r gymuned beth hoffan nhw weld yn digwydd i’r cerflun.
Cafodd pleidlais gyhoeddus ei chynnal wedyn, gyda 592 o drigolion yn bwrw eu pleidlais.
Fe bleidleisiodd 471 o bobl o blaid cadw’r cerflun yn ei le, gyda 121 eisiau gweld y cerflun yn cael ei dynnu o’i le.
Cadarnhaodd y Cyngor Tref mewn cyfarfod nos Fercher y byddai’r cerflun yn aros yn ei le felly.
Fe ddiolchodd Maer Tref Dinbych, y Cynghorydd Rhys Thomas i gynghorwyr y dref am “ymgymryd â’r dasg hon a’i gweld hi’n dod i ben”.
Fe wnaeth y Cynghorydd Dyfrig Berry awgrymu y dylid ychwanegu gwybodaeth hanesyddol bellach i gyd-fynd â’r cerflun yn y dyfodol.