Tywysoges Mako Japan yn priodi ac yn colli ei theitlau

Mae’r Dywysoges Mako o Japan wedi priodi ei chariad tymor hir mewn seremoni fechan ar ôl blynyddoedd o ddadlau dros y mater.
Yn unol â thraddodiad teulu brenhinol Japan ac yn wahanol i ddynion o’r un llinach, bydd y dywysoges yn colli ei theitlau gan ei bod yn priodi dyn cyffredin.
Am y tro cyntaf yn hanes Japan ers y rhyfel, cafodd y briodas ei chofrestru heb ddefodau traddodiadol, ac fe wnaeth y Dywysoges Mako, 30, wrthod taliad sylweddol sydd fel arfer yn cael ei gynnig i ferched y teulu brenhinol pan maent yn gadael.
Yn dilyn ei dyweddïad hi a Kei Komuro yn 2017, mae’r cwpwl wedi eu beirniadu gan y wasg yn sgil adroddiadau fod gan deulu Mr Komuro broblemau ariannol.
Mae disgwyl i’r pâr priod symud i’r Unol Daleithiau, lle mae Mr Komuro yn gweithio.
Darllenwch y stori’n llawn yma.