Newyddion S4C

Angen blaenoriaethu brechu pobl fregus cyn brechu plant, yn ôl arbenigwr

Newyddion S4C 22/10/2021

Angen blaenoriaethu brechu pobl fregus cyn brechu plant, yn ôl arbenigwr

Mae pryderon bod plant yn cael eu brechu yn hytrach na chanolbwyntio ar bobl hŷn a bregus.  

Yn ôl arbenigwr Iechyd Cyhoeddus sydd wedi bod yn siarad â rhaglen Newyddion S4C, mae tua 90,000 o bobl yn y categori yma heb eu brechu'n llawn.

Ychwanegai’r arbenigwr nad oes fawr o werth mewn brechu'r plant rhwng deuddeg a phymtheg oed.

Serch hynny, mae’r Gweinidog Iechyd yn mynnu bod y cynllun brechu ar y trywydd cywir.

Dywedodd Salmon, Arbenigwr Iechyd Cyhoeddus: “Os i chi'n defnyddio resource am imiwneiddio ar gyfer y plant rhwng 12 a 15 oed, does dim resource ar gael am imiwneiddio'r bobl mewn risg clinical neu yn fwy na 60 oed.

“Ar hyn o bryd dwi wedi gweld ar site y we iechyd cyhoeddus Cymru a dwi wedi gweld bod 90,000 o bobl yn y grwpiau mewn risg sydd ar hyn o bryd heb ddau bigiad.

“Mae'n bwysig i gael dau bigiad i'r bobl hynny cyn imiwneiddio'r bobl ifanc.”

Dywedodd Eluned Morgan AS: “Mae'r cynllun hyd yn hyn yn mynd yn union fel yn gobeithio bydde hi'n mynd. Mae cynllun gyda ni ble i ni eisiau cynnig y brechlyn i blant o 12-15 cyn diwedd hanner tymor ac mae'n edrych fel bod hynny yn digwydd.

“Ac wedyn wrth gwrs y peth falle pwysicach rili yw bod pobl sydd yn y categorïau 'na sydd angen y booster mae'n bwysig bod nhw yn cymryd y cyfle.

“Ac unwaith eto i ni'n aros am y canlyniadau ond i ni'n hyderus ein bod ni ar y trywydd cywir hefyd ar gyfer y boosters, achos i ni mewn sefyllfa nawr lle ni yn gweld y lefelau [o Covid-19] yn mynd yn uchel iawn yn ein cymunedau ni ac mae'n bwysig bod y rheini odd wedi cael y brechlyn yn y dyddiau cynnar yn dod 'nôl am y booster yna.”

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, plant a phobl ifanc sy'n cael eu heintio fwya ar hyn o bryd.

'Wedi cael digon'

Mae’r farn am gyflwyno rhagor o gyfyngiadau Covid-19 mewn ysgol yn ardal yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd yn gymysg.

Dywedodd un rhiant: “Mae rhaid i ni fyw, mae rhaid i ni fynd i siopa a dyna fo. Dwi ddim yn eisiau unrhyw lockdown, ni wedi cael digon o lockdowns.”

Dywedodd riant arall: "Mae lot yn yr ysgol wedi bod bant gyda Covid, ond sai'n gwybod beth yw'r ateb a deud y gwir. Oes ishe edrych ar gyflwyno rhai cyfyngiadau eto? Swn i'n gweud ie.

"Ond wedyn mae rhaid i ni ddilyn be' mae San Steffan yn gneud i ryw raddau achos, os ydw i'n deall yn iawn, ni methu cau pethau lawr achos bydd dim arian yn dod o San Steffan er mwyn gallu gneud hynny.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.