Gweinidog yn galw am drefniadau Brexit newydd i Ogledd Iwerddon

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dymuno dod â'r protocol Gogledd Iwerddon i ben gan gyflwyno trefniadau Brexit newydd yn ei le, yn ôl ei phrif lefarydd ar Brexit.
Mewn araith ym Mhortiwgal ddydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog Brexit, Yr Arglwydd Frost, fod angen cyflwyno protocol o'r newydd er mwyn gallu symud y berthynas yn ei blaen.
Daw rhybudd y byddai'n "gamsyniad hanesyddol" pe na fyddai'r Undeb Ewropeaidd yn ystyried newid o'r fath.
Ychwanegodd yr Arglwydd Frost fod y DU wedi dechrau ar "berthynas gecrus" ond fod angen "dau i'w thrwsio", yn ôl The Independent.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Tim Hammond/ 10 Downing Street