Y Gweinidog Iechyd yn ymddiheuro i'r rhai sydd wedi dioddef yn y pandemig
Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi dweud ei bod yn fodlon ymddiheuro i'r rhai sydd wedi dioddef yn ystod y pandemig.
Fe wnaeth Eluned Morgan ei sylwadau yn ystod cynhadledd y wasg Covid-19 Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth, ar ôl i un o weinidogion Llywodraeth San Steffan wrthod ymddiheuro yn gynharach am ganfyddiadau adroddiad beirniadol ar sut yr oedd Llywodraeth y DU wedi ymateb i'r pandemig.
Daeth adroddiad gan y Pwyllgorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gwyddoniaeth a Thechnoleg i'r casgliad bod cyfleoedd cynnar i oedi lledaeniad Covid-19 ym Mhrydain wedi eu colli, tra bod cyfnodau clo, profi a chynlluniau hunanynysu ar waith mewn gwledydd eraill.
Fe wrthododd Stephen Barclay, Gweinidog yn Swyddfa'r Cabinet yn San Steffan ag ymddiheuro mewn cyfweliad gyda Sky News.
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ran Llywodraeth San Steffan: "Trwy gydol y pandemig, rydym wedi cael ein harwain gan arbenigwyr gwyddonol a meddygol ac ni wnaethom erioed wyro rhag cymryd camau cyflym a phendant.
'Ymddiheuro' i ddioddefwyr
Yn yn y gynhadledd i'r wasg yng Nghaerdydd ddydd Mawrth, dywedodd Eluned Morgan y byddai'n fodlon ymddiheuro ar ran Llywodraeth Cymru i'r rhai oedd wedi dioddef yn sgil Covid-19, ac yn cydnabod eu bod wedi dysgu o'r sefyllfa.
Dywedodd: "Rydw i'n barod i ymddiheuro i'r rhai sydd wedi dioddef yn ystod y pandemig. Roedd hyn yn beth newydd - doedd dim un ohonom yn ymwybodol ar y dechrau sut y byddai'n datblygu neu beth fyddai'n digwydd.
"Mae yna lawer o bethau rydym angen ei ddysgu a dwi'n falch dweud ein bod wedi dysgu llawer o'r profiad hwn. Mae gennym ni ddyletswydd a chyfrifoldeb i ymddiheuro am y camgymeriadau rydym wedi eu gwneud."
'Gaeaf heriol'
Ychwanegodd y gweinidog ei bod yn cydnabod bod Cymru yn "wynebu gaeaf heriol".
"Ni fydd y pandemig ar ben erbyn Nadolig," ychwanegodd.
"Rhaid cydnabod bod salwch eraill o gwmpas hefyd. Mae disgwyl y bydd achosion ffliw 50-100% yn uwch y gaeaf hwn. Roedd cyn lleied o achosion o ffliw gaeaf diwethaf oherwydd roedden ni'n delio ag achosion uchel o Covid-19.
Dywedodd bod gan Lywodraeth Cymru "gynlluniau mewn lle" i ddelio â'r ffliw a'i bod yn "barod am y gaeaf."