Newyddion S4C

Cwpan y Byd 2022: Estonia 0 - 1 Cymru

11/10/2021

Cwpan y Byd 2022: Estonia 0 - 1 Cymru

Mae Cymru wedi sicrhau triphwynt yn Estonia nos Lun, ond yn parhau yn y trydydd safle yng ngrŵp E gemau rhagbrofol Cwpan y Byd, wedi i’r Weriniaeth Tsiec hefyd sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Belarws.

Roedd Cymru’n rheoli’r chwarae drwy’r rhan fwyaf o'r hanner cyntaf, ac fe ddaeth unig gôl y gêm wedi 32 o funudau i Kieffer Moore, a hynny wedi blerwch llwyr gan amddiffynwyr Estonia.

Blêr oedd perfformiad Cymru ar y cyfan yn yr ail hanner, gyda’r tîm yn ffodus i warchod eu mantais wrth i Erik Sorga a Mattias Kait o Estonia fethu cyfleoedd da o flaen gôl Cymru.

Roedd y tîm cartref, sydd yn safle 111 yn y byd, yn parhau i bwyso’n galed ar Gymru drwy gydol yr ail hanner, gyda chwaraewyr Cymru’n ymddangos yn rhwystredig ar sawl achlysur.

Daeth cerdyn melyn i Kieffer Moore ar ôl 69 o funudau, sy’n golygu bydd y chwaraewr Caerdydd yn colli'r gêm nesaf yn erbyn Belarws.

Mae Cymru’n parhau i fod yn gyfartal â’r Weriniaeth Tsiec o ran pwyntiau yn y grŵp wedi gêm gyfartal rhwng y ddwy wlad ym Mhrâg nos Wener.

Gan fod y ddau dîm hefyd wedi sicrhau buddugoliaeth nos Lun, nid oes dim newid yn y tabl, gyda Chymru yn drydydd, y Weriniaeth Tsiec yn ail tu ôl i Wlad Belg, sy’n parhau ar frig y grŵp.

Mae carfan Rob Page bron yn sicr wedi cael lle i chwarae yn y gemau ail-gyfle ym mis Mawrth oherwydd eu llwyddiant yng Nghynghrair y Cenhedloedd y llynedd.

Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.