Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghorris
Mae dyn 46 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghorris, Gwynedd ddydd Sul.
Fe gafodd yr heddlu eu galw ychydig cyn 12:20 yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad yn cynnwys dau feic modur ger Canolfan Grefft Corris.
Fe wnaeth y Gwasanaeth Ambiwlans a'r Ambiwlans Awyr hefyd ymateb i'r digwyddiad, ond bu farw gyrrwr un o'r beiciau modur yn y fan a'r lle.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth.
Dywedodd Sarjant Raymond Williams o Uned Plismona'r Ffyrdd: "Rwy’n cydymdeimlo'n fawr â theulu’r beiciwr modur, sy’n cael eu cefnogi gan swyddog sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig ar yr adeg anodd hon.
“Ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio i’r digwyddiad hwn fel gwrthdrawiad angheuol ar y ffordd ac yn gofyn i unrhyw dystion, nad ydynt eisoes wedi dod ymlaen, i gysylltu â’r heddlu gydag unrhyw wybodaeth neu luniau dashcam."
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu gan ddyfynnu rhif cyfeirnod Z149033.
Llun: Google