Gweinidog yn 'cefnogi' gwasanaeth ffôn newydd i warchod menywod wrth gerdded adref

Mae gwasanaeth ffôn newydd i helpu i warchod menywod wrth iddynt gerdded adref wedi ei gefnogi gan y Gweinidog Cartref Priti Patel, yn ôl adroddiadau.
Byddai'r gwasanaeth yn caniatáu i bobl ddefnyddio ap neu ddeialu 888 er mwyn i GPS eu dilyn ar hyd eu taith.
Bydd y gwasanaeth yn cyfrifo'r amser disgwyliedig ar gyfer eu taith, gyda rhybuddion awtomatig yn cael eu hanfon at gysylltiadau brys fel ffrindiau a theulu os yw'r unigolyn yn methu â chyrraedd adref erbyn yr amser hwnnw.
Mae'r syniad yn cael ei arwain gan brif weithredwr BT, Philip Jansen, ar ôl iddo ddweud ei fod wedi'i lenwi â "dicter a ffieidd-dod" yn dilyn llofruddiaethau Sarah Everard a Sabina Nessa.
Mae'n gobeithio y gallai'r gwasanaeth fod ar waith erbyn y Nadolig, gan ddweud y byddai ar gael i unrhyw un sy'n teimlo'n fregus - nid menywod yn unig.
Darllenwch y stori'n llawn yma.