Llai o bobl yn bwyta cig o'i gymharu â degawd yn nôl yn y DU

Mae astudiaeth o Arolwg Diet a maeth Cenedlaethol yn dangos bod 17% o bobl yn y Deyrnas Unedig yn bwyta llai o gig coch nawr o'i gymharu â degawd yn ôl.
Dyma'r gostyngiad mwyaf o faint o gig coch a chig sydd wedi’i brosesu sy’n cael ei fwyta bob dydd.
Yn ôl Golwg360, mae adroddiad Strategaeth Fwyd Cenedlaethol Henry Dimbleby yn rhybuddio bod yn rhaid gostwng faint o gig coch mae pobl yn bwyta i 30% erbyn 2030 er mwyn lleihau allyriadau methan sy’n cael eu rhyddhau gan wartheg a defaid, sy’n effeithio cynhesu byd-eang o ganlyniad.
Dywedodd Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru, Gwyn Howells: “Does dim angen torri cig allan o’r diet i wneud dewis cadarnhaol o ran yr amgylchedd – dim ond dewis cig sydd wedi ei gynhyrchu mewn ffordd gynaliadwy.”
Darllenwch y stori’n llawn yma.