Newyddion S4C

Y fyddin i helpu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

07/10/2021
Aelodau o'r fyddin yn helpu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Bydd 110 o aelodau milwrol yn gweithio fel gyrwyr i helpu lleihau’r straen ar Wasanaeth Ambiwlans Cymru o 14 Hydref.

Yn gynharach ddydd Iau, dangosodd adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (WAST) bod oedi hir wrth drosglwyddo gofal tu allan i adrannau achosion brys ledled Cymru yn digwydd “yn rheolaidd”.

Fe ddangosodd yr adroddiad bod llai na hanner y trosglwyddiadau o’r gwasanaeth ambiwlans i ysbytai ledled Cymru rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021 wedi eu cyflawni o fewn eu targed o 15 munud.

Mae'r cynllun newydd gan Weinidogaeth Amddiffyn Llywodraeth Cymru yn golygu y bydd aelodau o’r fyddin yn gyrru i sefyllfaoedd nad sydd yn argyfyngus ym mhob rhanbarth o Gymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Amddiffyn y DU Ben Wallace: “Dw i’n falch iawn o waith diflino holl aelodau’n gwasanaeth yn y pandemig.

“Maent yn parhau i ddarparu cefnogaeth bwysig gan gydweithio gyda’n gwasanaethau brys ar hyd y DU,” ychwanegodd.

“Mae gosod 110 o filwyr i roi cefnogaeth i’r gwasanaeth ambiwlans yn golygu y gall WAST barhau i ddarparu eu gwasanaethau achub bywyd.”

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart: “Unwaith eto mae lluoedd arfog y DU yn chwarae rôl bwysig yn y frwydr yn erbyn Covid-19 trwy gefnogi gwaith allweddol y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru.”

“Rwy’n hynod werthfawrogol o’u hymrwymiad a’u harbenigedd.”

Yn ôl Prif Weithredwr y Gwasanaeth Ambiwlans Cymreig Jason Killens, mae’r misoedd diwethaf yn benodol wedi golygu bod y gwasanaeth ambiwlans "dan bwysau enfawr".

Dywedodd: “Mae’r pandemig wedi cyflwyno her mwy nag erioed, ond mae’r misoedd diwethaf yn benodol wedi golygu pwysau enfawr a dibaid ar ein gwasanaeth iechyd, gan gynnwys lefelau uchel o alw a chynnydd mewn achosion sy’n gysylltiedig â Covid-19.

“Y gaeaf yw ein adeg prysuraf, a bydd cael cydweithwyr milwrol yn helpu’n capasiti gan ein rhoi yn y sefylffa gorau posib i ddarparu gwasanaeth diogel i bobl Cymru,” ychwanegodd.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George AS: “Rwy’n falch iawn o glywed bod Llywodraeth y DU wedi cytuno i ddefnyddio milwyr i gefnogi gwasanaeth ambiwlans Cymru wrth iddi frwydro i ateb y galw mawr.

“Ni ddylai dod â’r lluoedd arfog i mewn fod yn opsiwn hir neu byr dymor i lywodraeth Llafur ym Mae Caerdydd. Mae'n gyfrifoldeb ar y gweinidogion i sicrhau bod y GIG wedi'i staffio'n dda ac yn rhedeg yn dda."

Yn ogystal â gyrwyr, bydd y Weinidogaeth Amddiffyn yn darparu tri o bobl i gefnogi gwaith trefnu gyda’r GIG.

Mae disgwyl i’r cynllun bara tan ddiwedd mis Tachwedd.

Llun: Llywodraeth y DU

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.