Newyddion S4C

Pàs Covid-19: Cymdeithas Diwydiannau Nos yn galw am bleidlais arall

Newyddion S4C

Mae Cymdeithas Diwydiannau Nos Cymru wedi galw am bleidlais arall ar gyflwyno pasys Covid-19 yng Nghymru.

Pleidleisiodd Aelodau o’r Senedd 28-27 o blaid y cynnig ddydd Mawrth.

Ond, mae’n debyg nad oedd un aelod Ceidwadol wedi gallu pleidleisio oherwydd problem gyda’u cyswllt Zoom.

Serch hynny, mae'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi dweud nad oes bwriad i gynnal ail bleidlais.

Mae'r gymdeithas wedi disgrifio'r sefyllfa yn "shambyls" fydd yn achosi "hyd yn oed mwy o ansicrwydd" i fusnesau.

Darllenwch y stori'n llawn ar wefan Golwg360 yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.