Galwadau i wella cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc

Galwadau i wella cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc
Mae angen gwella'r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc ym maes iechyd meddwl, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.
Mae angen cynnig llefydd i bobl ifanc allu mynd iddynt unrhyw awr o'r dydd, gyda'r comisiynydd yn dweud mai'r unig opsiwn yn aml ar hyn o bryd yw galw'r heddlu neu fynd i'r ysbyty mewn argyfwng.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maent yn barod yn cynnig mwy o wasanaethau yn y maes.
Mae Lara Rebecca eisoes wedi gwella o anhwylder bwyta. Ond ar ôl ei phrofiad, mae’n cytuno bod angen gwneud mwy i helpu pobl ifanc sy’n dioddef.
Mae’n pwysleisio’r angen am gymorth ar alw, yn lle gorfod aros ar restrau hir i gael y cymorth sydd angen.
Dywedodd Lara: “So pryd o'n i'n 16 mlwydd oed nes i fynd i CAMS i drio cael y support a chael yr help i allu recovero ag anorecsia. Ges i'r cyfle i fynd ar meal plan, ges i'r cyfle i weithio gyda'r doctoriaid i drio ffocysu ar iechyd feddwl, ffocysu ar fy iechyd ffisegol hefyd.
"Ar ôl 'chydig o fisoedd nes i fagu'r pwysau, nes i ddechrau datblygu'n bositif. Ond mewn ffordd odd e'n itha hwyr. Galle ni wedi cael y support cyn pryd o'n i'n sâl, pryd o'n i'n fwy ifanc.
"Ond yn anffodus odd 'na delays achos, fi'n meddwl oedden nhw eisiau i fi colli ychydig mwy o bwysau nes ges i gael fy considero'n ddigon sâl i allu cael yr help. So nawr yn y dyfodol dwi'n gallu sylweddoli falle odd hynna'n ychydig o broblem.
“Shwd gymaint o weithiau mae rhaid i ni fynd ar waiting list, mae rhaid i ni aros am y support, mae rhaid i ni drafod am beth 'da ni'n mynd trwy sy'n rili anodd i ni. Ond wedyn cael ein troi nôl achos mae'r broses yn underfunded neu beth bynnag. So gobeithio bydd hyn yn galluogi unigolion i allu trafod, i allu cael cymorth yn y broses ac yn y foment yn hytrach 'na angen aros nes mae ei sefyllfa 'di datblygu yn ddifrifol.”
'Helpu unigolion eraill'
Ers gwella mae Lara’n ceisio helpu eraill sy’n dioddef fel y gwnaeth hi drwy recordio podlediad a fideos, gydag un o’i fideos wedi denu dros 8,000,000 o wylwyr.
“Nawr dwi'n neud yn dda, dwi'n cadw'n brysur," ychwanegodd Lara.
"Ond dwi'n gobeithio jyst defnyddio fy mhrofiadau nawr o anorecsia nervosa, o depression, o bryder i allu trio helpu unigolion eraill. Dwi jyst eisiau neud newid positif. Dwi eisiau defnyddio'r profiadau dwi 'di fynd trwy i ffordd bositif ac i drio helpu eraill.”
Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru: “Mae rhaid i ni weld llefydd eraill i bobl ifanc i fynd mewn argyfwng ac argyfwng iechyd meddwl.
"Mae rhaid iddyn nhw deimlo fel hafan neu fel lle o 'sanctuary' nid i eistedd mewn llinell ar gadair galed mewn adran yn yr ysbyty.”
Wrth ymateb mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod nhw wedi treblu'r cymorth mae ysgolion yn ei gael ar gyfer ymyrryd yn gynnar ym maes iechyd meddwl - ac maen nhw wedi rhoi dwy £2,500,000 yn ychwanegol i'r cynghorau ar gyfer gwasanaethau i bobol ifanc.
Mae'r gwasanaeth iechyd yn eu tro wedi cael £42,000,000 - ac mae llinell ffon 111 yn cynnig cyngor bob awr o'r dydd.