Llofruddiaeth Sarah Everard: Lansio ymchwiliad i ‘fethiannau systematig’ yr heddlu

Sky News 05/10/2021
Sarah Everard

Mae’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel wedi cyhoeddi ymchwiliad annibynnol i “fethiannau systematig” yr heddlu yn dilyn llofruddiaeth Sarah Everard gan yr heddwas, Wayne Couzens.

Wrth siarad yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol ddydd Mawrth, dywedodd Ms Patel bod y digwyddiad wedi “arddangos methiannau sydd tu hwnt i ddychymyg” ac y bydd yr ymchwiliad yn “sicrhau na all rhywbeth fel hyn ddigwydd byth eto.”

Yn ôl Sky News, dywedodd y Swyddfa Gartref y bydd rhan gyntaf yr ymchwiliad yn archwilio ymddygiad blaenorol Wayne Couzens yn ogystal ag unrhyw gyfleoedd a fethwyd gan Heddlu’r Met.

Dywedodd Ms Patel: "Mae gan y cyhoedd hawl i wybod pa fethiannau systematig a adawodd iddo [Wayne Couzens] barhau i gael ei gyflogi fel heddwas.”

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.