Gohirio penderfyniad ar gynlluniau parc gwyliau gwerth £13m

Mae penderfyniad i roi caniatâd cynllunio ar gyfer ailddatblygiad gwerth £13m mewn parc gwyliau yng Ngwynedd wedi cael ei ohirio oherwydd pryderon am ‘orddatblygu’.
Roedd swyddogion wedi argymell y dylai’r pwyllgor cynllunio gymeradwyo’r cynlluniau ar gyfer datblygu parc gwyliau Hafan y Môr ger Pwllheli ddydd Llun.
Cafodd maint y cynllun ei ddisgrifio fel ‘gorddatblygiad’ gan un cynghorydd, gydag eraill hefyd yn codi cwestiynau am y gwaith ail-ddatblygu.
Penderfynodd aelodau o gabinet y Cyngor bleidleisio i ohirio’r penderfyniad.
Mae’r cynlluniau yn cynnwys caffi traeth newydd, 154 o garafanau statig newydd, dau adeilad a dymchwel 56 o fflatiau deulawr.
Yn ôl Haven, perchnogion y parc gwyliau, byddai 58 o swyddi llawn amser yn cael eu creu ar ôl i'r cynllun gael ei gwblhau, yn ogystal â dros 200 o swyddi adeiladu yn ystod y gwaith adeiladu.
Bydd y cais yn cael ei ailgyflwyno fis Tachwedd, wedi'i gynghorwyr gael cyfle i weld y safle a’r cynlluniau'n fanwl.
Darllenwch y stori'n llawn yma.