Newyddion S4C

Cwestiynau am ddyfodol Clwb Pêl-droed Dinas Bangor

Newyddion S4C 01/10/2021
Dinas Bangor

Mae cwestiynau o'r newydd wedi codi am ddyfodol clwb pêl-droed Dinas Bangor yn dilyn ymchwiliad gan raglen Newyddion S4C.

Bu'r clwb mewn helynt ariannol ychydig flynyddoedd yn ôl dan berchnogion blaenorol, ac mewn cyfnod cythryblus, fe adawodd nifer o'u cefnogwyr mewn protest gan ffurfio clwb newydd yn y ddinas, sef Bangor 1876.

Mae gan glwb Dinas Bangor hanes hir a llwyddiannus. Mae wedi ennill Cwpan Cymru ar wyth achlysur ac wedi bod yn bencampwyr ar adran uchaf pêl-droed domestig Cymru deirgwaith ers dechrau'r nawdegau. Bu'r clwb yn chwarae ar lefel Ewropeaidd hefyd, gan ennill buddugoliaeth enwog yn erbyn tîm Napoli ym 1962.

Image
Dinas Bangor

Ym mis Medi 2019, cafodd Domenico Serafino ei benodi'n llywydd ac yn unig gyfarwyddwr ar y clwb. Nawr, mae yna bryderon o'r newydd am ddyfodol y clwb dan ei arweinyddiaeth ef.

Tan fis Mawrth eleni, roedd Mr Serafino hefyd yn berchennog ar glwb pêl-droed Sambenedetesse oedd yn chwarae yn Serie C - trydedd adran yr Eidal.

Ond ddiwedd mis Mawrth eleni, fe wnaeth Ffederasiwn Bêl-droed yr Eidal wahardd Domenico Serafino rhag ymwneud â phêl-droed yn y wlad am chwe mis, a hynny ar ôl i'r clwb fethu a thalu cyflogau chwaraewyr a staff.

Image
Serafino
Dominico Serafino mewn cynhadledd i'r wasg tra'r oedd yn berchen ar glwb Sambenedetesse yn yr Eidal (Llun: Sambenedetesse)

Dywedodd Claudio Giambene, newyddiadurwr pêl-droed Eidalaidd wrth raglen Newyddion S4C: "Fe arwyddodd Sambenedetesse lawer o chwaraewyr ar gontractau dwy flynedd, a rhai yn chwaraewyr da. Mae hynny'n anarferol yn Serie C lle mae clybiau fel arfer yn ddibynnol ar chwaraewyr ar fenthyg neu ar gontractau blwyddyn yn unig. Ond roedd pawb yn meddwl bod Serafino yn anelu at frig yr adran gan iddo arwyddo ymhlith eraill, Maxi Lopez, cyn-chwaraewr gyda Barcelona ac AC Milan.

"Ond ar ôl rhyw ddeufis, doedd y chwaraewyr heb gael eu talu. Dydyn ni ddim yn sôn am safon aur y byd pêl-droed fel Serie A neu'r Premier League fan hyn, bydden nhw'n ennill o bosib 2000 ewro'r mis.

"Roedd nifer o'r chwaraewyr yn rhentu tai yn ardal y clwb ac yn methu fforddio talu rhent. Erbyn diwedd y tymor, roedden nhw'n dibynnu ar gefnogwyr a noddwyr lleol i dalu iddyn nhw fforddio aros yn eu cartrefi."

Ar ddiwedd y tymor diwethaf, fe aeth clwb Sambenedetesse i'r wal. Mae'r clwb bellach wedi ailffurfio ond wedi eu gorfodi i ail-ddechrau o Serie D - lefel isaf pêl-droed y wlad.

Mae Claudio Giambene yn rhybuddio cefnogwyr Dinas Bangor i fod ar eu gwyliadwriaeth yn dilyn yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Eidal.

"Petawn i'n gefnogwr Dinas Bangor, byddwn i'n bryderus iawn. Dw'i ddim yn gyfarwydd â'r sefyllfa yng Nghymru, ond dwi'n amheus am ei rôl yno."

Dyfarniadau llys

Mae rhaglen Newyddion S4C hefyd wedi canfod bod pum dyfarniad llys sirol yn erbyn CPD Dinas Bangor sydd heb eu talu am gyfanswm o £26,127.

Mae tri o'r dyfarniadau yn dyddio i'r cyfnod cyn i Mr Serafino gymryd yr awenau. Ond ym mis Awst eleni, dyfarnwyd bod dyled o £3,713 gan y clwb i'w dalu i un hawliwr, cyn i ddyfarniad arall am swm o £18,475 gael ei wneud ar 5 Medi.

Mewn datganiad, mae Mr Serafino'n dweud ei fod wedi gorfod delio â sibrydion negyddol ers dod yn berchennog, a bod y rheiny yn deillio nôl i broblemau o dan y cyn-berchnogion.

Mae'n dweud ei fod yn ceisio ailadeiladu'r clwb, wedi talu 90% o'r dyledion hanesyddol ac yn ail-negydu'r gweddill.

Dywed ei fod yn ailadeiladu'r academi, wedi ffindio llety newydd ac addas i'r chwaraewyr a'i fod wedi rhoi cymorth i'r gymuned leol, gan gynnwys drwy roi arian i'r ysbyty lleol.

O ran y sefyllfa yn yr Eidal, mae'n dweud ei fod yn gweithio gyda'i gyfreithwyr i ddatrys y sefyllfa ac yn cymryd camau cyfreithiol am ddifenwi a lledu newyddion ffug honedig.

Mae Mr Serafino hefyd yn honni bod y gwaharddiad o chwe mis nawr wedi ei ddileu.

Mae'n gorffen ei ddatganiad drwy ddweud ei fod yn benderfynol o arwain CPD Dinas Bangor yn ôl i Uwch Gynghrair Cymru a bod y cyfrifon i gyd mewn trefn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.