Newyddion S4C

Yr Urdd i wobrwyo enillwyr yr Eisteddfod na fu

30/09/2021
Yr Urdd

Bydd yr Urdd yn gwobrwyo’r holl waith Cyfansoddi a Chreu buddugol ddaeth i law ar gyfer yr Eisteddfod yn Ninbych yn 2020, cyn gorfod gohirio’r ŵyl oherwydd Covid-19.

Hyd yn hyn, nid yw’r gweithiau wedi gweld golau dydd, ar ôl i’r ŵyl gael ei gorfodi i ohirio am ddwy flynedd yn olynol yn sgil y pandemig.

Mae’r Urdd wedi cyhoeddi y bydd dathliad o’r gweithiau buddugol yn cael ei gynnal yn ystod wythnos 18 Hydref, gan gyhoeddi enillwyr cystadleuaeth y Gadair, y Goron, y Fedal Ddrama a’r Fedal Gyfansoddi.

Bydd y Prif Lenor yn derbyn Coron wedi’i chreu gan y cerflunydd Mared Davies, a’r Prifardd yn ennill Cadair wedi’i cherfio gan y saer Rhodri Owen, gyda chwmni gemwaith Rhiannon o Dregaron wedi creu’r medalau ar gyfer y Prif Ddramodydd a’r Prif Gyfansoddwr.

Bydd Eisteddfod yr Urdd hefyd yn cyhoeddi cyfrol y cyfansoddiadau, fydd ar gael o Ddydd Gwener, 22 Hydref, gyda rhestr lawn o’r holl enillwyr a’r beirniadaethau ar gael ar wefan Eisteddfod yr Urdd o Ddydd Llun, 18 Hydref.

Eisteddfod yr Urdd 2022

Gyda chyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru wedi eu llacio, mae’r mudiad yn gobeithio cynnal yr Eisteddfod yn Ninbych yn ystod hanner tymor y Sulgwyn yn 2022, gyda rhestr testunnau wedi ei gyhoeddi.

Yn dilyn llwyddiant yr Eisteddfod T - eisteddfod rithiol a gafodd ei chynnal yn 2020 a 2021 - mae’r Urdd wedi penderfynu parhau gydag elfen o’r eisteddfod hon ar gyfer 2022, gyda chystadlaethau amgen Rhestr T am gael eu cyhoeddi yn y gwanwyn.

“Mi ydan ni’n falch iawn o fedru cyhoeddi ein Rhestr Testunau ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022,” meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd.

“Ac wedi hir ymaros, braf hefyd fydd cael datgelu enillwyr cystadlaethau cyfansoddi'r Eisteddfod yr Urdd na gynhaliwyd yn 2020 o ganlyniad i’r pandemig.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i’n partneriaid am ein helpu i roi sylw ychwanegol a haeddiannol i enillwyr y prif wobrau.”

Mae modd lawrlwytho Rhestr Testunau 2022 a rheolau cystadlu oddi ar wefan Eisteddfod yr Urdd.

Bydd cofrestru i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych yn agor ar 1 Ragfyr 2021 ac yn cau ar 14 Chwefror 2022.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.