Codiad cyflog pennaeth Cyngor Ceredigion yn ‘sarhad’

Codiad cyflog pennaeth Cyngor Ceredigion yn ‘sarhad’
Mae gweithwyr Cyngor Sir Ceredigion yn “gandryll” gyda chodiad cyflog gwerth £15,000 eu Prif Weithredwr, yn ôl yr undeb sy’n eu cynrychioli.
Bydd Eifion Evans yn ennill £130,000 nawr bod cynnydd o 14% wedi cael ei gymeradwyo gan y Cyngor.
Yn ôl Undeb Unsain, mae’r newid yn “sarhaus” o ystyried “toriadau i gyflogau rhai gweithwyr y sector gyhoeddus” dros gyfnod y pandemig.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod holl staff y Cyngor yn cael cydnabyddiaeth ariannol briodol.
Mae Eifion Evans yn Brif Weithredwr ar Gyngor Sir Ceredigion ers 2017, yn dilyn ymddeoliad, Bronwen Morgan.
Mewn cyfarfod llawn o’r Cyngor, cafodd y cynnydd ei gymeradwyo gyda 26 o bleidleisiau, gyda thri yn gwrthwynebu a thri yn ymatal.
Mae Undeb Unsain nawr yn galw ar Mr Evans i ddilyn esiampl ei ragflaenydd, Ms Morgan a wrthododd gynigion i godi ei chyflog.
Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb: “Mae gweithwyr Cyngor Sir Ceredigion wedi ymateb yn gandryll ar ôl darganfod y bydd eu Prif Weithredwr yn derbyn codiad cyflog o 14%.
“Cynigir codiad cyflog o ddim ond 1.75% i weithwyr Cyngor yng Nghymru, sydd yn bell o dan gyfradd chwyddiant, gyda’r rhai sydd ar y raddfa gyflog isaf yn derbyn cynnydd o 2.75%.
Ychwanegodd Alison Boshier, ysgrifennydd cangen Unsain: “Mae codiad cyfog o 14% yn sarhaus pan rydych yn ystyried fod gweithwyr gofal, staff cymorth ysgolion, casglwyr sbwriel a llawer o rai eraill sydd wedi gadael y gwasanaeth yn ystod y pandemig, wedi cael cynnig toriad yn eu cyflog.
“Fe ddylai’r Prif Weithredwr wneud yn iawn gan ddilyn esiampl ei ragflaenydd,” meddai.
“Fe ddangosodd hi undod yn y gweithle gan wrthod codiadau yn y gorffennol gan nad oedd hi eisiau i’w thâl fod yn llawer uwch na lefelau cyflog ei staff.
“Heb os nac oni bai, fe fydd hyn ar flaen meddyliau wrth i aelodau Unsain ystyried pa gamau i gymryd gyda’u cynigion cyflog nhw’u hunain.”
'Dyletswydd i roi cydnabyddiaeth ariannol'
Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, roedd y cynnig hwn yn rhan o'u cynllun ail strwythuro, a oedd yn cynnwys adolygu cydnabyddiaeth ariannol rôl y Prif Weithredwr.
Dywedodd y Cynghorydd Ray Quant, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn falch o weld adolygiad o weithlu’r Cyngor yn cyrraedd y trydydd cam a’r cam olaf.
"Rydym yn ddiolchgar i holl staff y Cyngor am eu gwaith caled a’u penderfyniad wrth i ni ymdrechu i ddarparu gwasanaeth effeithiol sy’n gweithio i bawb.
“Mae gennym ddyletswydd i’n staff i sicrhau eu bod yn cael y gydnabyddiaeth ariannol briodol yn unol â’u dyletswyddau ac mae hyn yr un mor briodol i’r Prif Weithredwr.”
Bydd y newid i gyflogau'r Cyngor yn dod i rym o 1 Ebrill 2021.