Seren arall o Hollywood yn noddi un o glybiau chwaraeon Wrecsam
Mae Wrecsam wedi ennyn diddordeb seren arall o Hollywood wrth i un o glybiau chwaraeon y dref ddod o hyd i noddwyr newydd.
Yr actor Matthew Rhys, ynghyd â dau aelod arall o gymdeithas Cymry Efrog Newydd fydd noddwyr newydd Tîm Rygbi Merched Wrecsam.
Mae Rhys, sy’n wreiddiol o Gaerdydd, wedi gwneud enw iddo’i hun yn America fel un o sêr y cyfresi The Americans a Perry Mason.
A @NewYorkWelsh state of mind is coming to Clwb Rygbi Wrecsam…@tyfrancis @walbma @wrexhamrfc pic.twitter.com/e95EbzhEiY
— Matthew Rhys (@MatthewRhys) September 19, 2021
Dywedodd ei fod “bob tro’n hapus i weld rygbi ar unrhyw lefel yn ffynnu, a hyd yn oed fwy mewn rhai elfennau o’r gêm sydd angen mwy o sylw, cefnogaeth, anogaeth ac amlygrwydd”.
Daeth y cysylltiad rhwng y clwb a’r noddwyr yn dilyn cyfarfod rhwng yr Aelod Seneddol lleol, Sarah Atherton, a Ty Francis o Cymry Efrog Newydd.
Mae’r noddi yn bosib trwy fenter SponsorOurClub, a sefydlwyd gan Ty.
Mae’n cysylltu noddwyr gyda chlybiau pêl-droed a rygbi i ferched, yn ogystal â thimoedd gallu cymysg, sydd angen cefnogaeth ariannol.
Wrth gyhoeddi’r bartneriaeth, dywedodd Cadeirydd Clwb Rygbi Wrecsam, Gareth Lewis: “Mae arian ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad wastad yn anodd i ddod o hyd iddo, ond mae haelioni Matthew, Ty a Marc yn cael ei werthfawrogi’n fawr a bydd yn helpu ein merched anhygoel i fynd o nerth i nerth.”
Daw’r cytundeb misoedd yn unig ar ôl i’r ddau o sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Llun: ICLA