Newyddion S4C

'Cam mawr' i symud ysgol mewn pandemig

28/09/2021

'Cam mawr' i symud ysgol mewn pandemig

Ddechrau’r mis dychwelodd miloedd o ddisgyblion yn ôl i’r ysgol, ac i nifer roedd hyn yn golygu symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd gan ddechrau mewn ysgol newydd sbon.

Gyda nifer o’r mesurau i atal lledaeniad Covid-19 mewn ysgolion wedi'u llacio ers y tymor diwethaf, dywedodd rhai o ddisgyblion newydd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf wrth raglen Newyddion S4C fod y profiad yn un “gwahanol.”

 “Mae'n deimlad gwahanol, ni wedi symud o fod mewn ysgol gynradd i ysgol uwchradd sydd yn gam mawr yn ein bywyd ni,” meddai Mered, disgybl ym mlwyddyn saith.

“Yn sydyn ma' 'na lawer mwy o wynebau anghyfarwydd ni heb weld cyn hyn a ni'n cwrdd â lot o athrawon gwahanol a neud ffrindiau.”

Er bod Mali-Mai hefyd yn falch o gael dechrau yng Nglantaf mae’r rheolau yn wahanol i’r hyn roedd hi wedi dechrau dod i arfer ac yn yr ysgol gynradd.

“Mae wedi newid oherwydd ni angen gwisgo mygydau yn y coridor a ni angen symud o wers i wers,” meddai.

“Mae'n teimlo'n wahanol ond dwi eisiau bod yn yr ysgol yma mwy nag ysgol gynradd oherwydd mae 'na fwy o bethau i wneud.”

 Un o’r pynciau llosg ar goridorau’r ysgol yw’r brechlyn.

Daw hyn wedi i’r  Gweinidog Iechyd gyhoeddi yn gynharach fis Medi y byddai bobl ifanc rhwng 12-15 oed yn cael cynnig  un dos o frechlyn Pfizer.

Ond cymysg yw’r farn o hyd.

"Fi yn teimlo bach yn nerfus i gael e, ond hapus hefyd ar yr un pryd,” ychwanegodd Mali-Mai.

Un arall sydd rhwng dau feddwl yw Maia sydd hefyd newydd ddechrau yn yr ysgol yn yr ysgol uwchradd.

 “Sa’ i'n siŵr eto os fi'n mynd i gael e, ond os fi'n cael e fi'n gallu gweld mwy o fy nheulu fel Nain a Taid,” meddai.

 Ond i Joseff a Mered mae'r brechlyn yn cynnig cyfle i gadw disgyblion ac athrawon yr ysgol yn saff a dychwelyd i ryw fath o normalrwydd.

“Dwi yn gyffrous oherwydd wedyn chi'n falle gallu cwrdd â mwy o bobl, a chi ddim angen bod mor ofalus ble chi'n mynd a phopeth,” meddai Joseff.

"Dwi'n credu bod e'n bwysig oherwydd mae'n cadw ein teulu ni yn saff, a chadw ni'n saff, a bydd e'n feddwl bydd e'n lleihau'r Covid yn yr ysgol," meddai Mered.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.