Cytundeb arlwyo newydd ysgolion Môn yn 'siomedig'

Cytundeb arlwyo newydd ysgolion Môn yn 'siomedig'
Mae cytundeb arlwyo newydd ysgolion Ynys Môn wedi’i disgrifio’n "siomedig" gan NFU Cymru.
Dywedodd Iestyn Pritchard o NFU Cymru bod angen i’r cyngor gefnogi’r sector amaethyddol, diwydiant sy’n "bwysig iawn i’r ardal leol".
Dan y drefn newydd does dim cig ar y fwydlen ar draws ysgolion y sir ar ddydd Llun.
Am y pum mlynedd nesaf, cwmni Chartwells o Loegr sy'n darparu bwyd i holl ysgolion Môn.
Mae’n gytundeb gwerth £8,000,000, gyda phob pryd o fwyd 30c yn rhatach na'r cytundeb diwethaf.
Yn ôl Cyngor Môn, fe gafodd cwmni Chartwells ei ddewis ar ôl proses dendro hir.
Dywedodd y cyngor eu bod wedi gwrando ar bryderon amgylcheddol pobl ifanc wrth lunio'r bwydlenni, a'u bod nhw'n llawn ddeall hefyd yr angen i gefnogi ffermwyr lleol.
Dan y cytundeb newydd mae yna bwyslais ar "lai o gig, ond gwell cig", gyda gofyn i o leiaf 30% o'r cynhyrchu fod o fewn 60 milltir i Fôn.
A gyda chig ar y bwydlenni bedwar diwrnod allan o bump, mae'n rhaid i hwnnw wedyn fod yn gig o Brydain, ac o Gymru lle bo hynny'n bosib.
Dywedodd Iestyn Pritchard, NFU Cymru: “Mae o'n siomedig dwi'n meddwl yndydy. Os 'da ni'n edrych ar ardal Ynys Môn yn gyffredinol, mae 20% o'r bobl sy'n cael eu cyflogi yn Sir Fôn â ryw gyswllt efo'r diwydiant amaeth.
"Falle fwyfwy ar Ynys Môn 'nag yn nunlle arall, mae cyfraniad y sector amaethyddol yn bwysig iawn i'r economi leol. Ac mae rhywun yn teimlo falle dalia'r awdurdod lleol yn sicr fod yn cefnogi'r diwydiant yn llwyr.
“O ran dewis, mae o'n bwysig, mi ddylai bod y dewis yn pum diwrnod yr wythnos.
"Os ydi'r plant yn neud y penderfyniad nad ydi bwyta cig yn rhywbeth maen nhw ishe neud ar ddydd Llun, wel ie digon teg ydi hynny.
"Ond dwi'n meddwl dylai bod ni'n cychwyn o'r pwynt bod y ddarpariaeth yn cael ei chynnig bob diwrnod o'r wythnos.”
Fe fydd Cyngor Môn yn adolygu'r sefyllfa, gan gadw golwg ar ba mor boblogaidd fydd y bwydlenni.