Teyrngedau i dad i bedwar fu farw wedi gwrthdrawiad ar Ynys Môn
Mae teulu dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar Ynys Môn brynhawn dydd Sadwrn wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Christopher Brierley, 40 oed, o Borthaethwy yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd ar ffordd y B5109 rhwng Llangoed a Biwmares.
Mae teulu Mr Brierley wedi dweud y bydd colled fawr ar ei ôl.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: "Yn anffodus, bu farw Christopher yn sydyn a chyn ei amser ddydd Sadwrn. Roedd yn dad ymroddedig i bedwar ac yn frwdfrydig dros rali a bydd pawb a oedd yn ei adnabod yn gweld ei eisiau'n fawr.
"Mae ei bartner a'i blant wedi eu tristau'n fawr yn dilyn y golled hon a byddent yn gwerthfawrogi preifatrwydd yn ystod yr amser hwn. "
Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i apelio am wybodaeth, gan annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gydag Uned Plismona'r Ffyrdd gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 21000668228.