Betsi Cadwaladr: Dim ond 1 o bob 5 o 4,000 problem diogelwch tân wedi eu datrys
Dim ond un o bob pump o bron i 4,000 o broblemau diogelwch tân a ddaeth i’r amlwg yn 2024 wnaeth bwrdd iechyd y gogledd lwyddo i ymdrin â nhw y flwyddyn wedyn, yn ôl adroddiad gan Archwilio Cymru.
Dywedodd y Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrth yr archwilwyr nad oedd ganddo ddigon o staff nac adnoddau i ymdopi â maint y gwaith.
Erbyn diwedd Medi 2025, dim ond un o bob pump o’r problemau a ddaeth i’r amlwg mewn asesiadau diogelwch tân y flwyddyn flaenorol oedd wedi eu datrys.
Yn ôl yr adroddiad, roedd tua £278m o waith cynnal a chadw wedi cronni ar draws ystâd y bwrdd iechyd yn 2024–25.
Yn Ysbyty Abergele, dim ond 15% o’r arwynebedd llawr a oedd mewn ddefnydd oedd yn bodloni gofynion statudol iechyd a diogelwch.
Mae’r bwrdd iechyd yn disgwyl cyhoeddi cynllun hirdymor erbyn mis Mawrth 2028 i fynd i’r afael â’r gwaith ardraws yr ystâd.
Dywedodd y bwrdd wrth Newyddion S4C fod y 3,978 o faterion a ddaeth i’r amlwg yn yr asesiadau diogelwch tân yn amrywio o fân faterion gweithredol i waith mwy cymhleth i wella adeiladau.
“Mae’r bwrdd iechyd yn cydnabod yr heriau sy’n gysylltiedig â chynnal a chadw ac uwchraddio un o’r ystadau gofal iechyd mwyaf a mwyaf cymhleth yng Nghymru,” meddai Arwel Hughes, Cyfarwyddwr Dros Dro yr Amgylchedd ac Ystadau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
“Mae gennym ni systemau cadarn i nodi’r meysydd lle mae angen gwelliannau, eu blaenoriaethu a mynd i’r afael â nhw.
“Mae buddsoddiad sylweddol mewn gwelliannau i’r seilwaith a mesurau rheoli gweithredol yn cefnogi’r gwaith hwn.
“Rydyn ni’n rhoi mesurau dros dro priodol ar waith pryd bynnag y bo angen i gadw cleifion, staff ac ymwelwyr yn ddiogel tra bo’r gwaith ar atebion parhaol yn mynd rhagddo.”
Ysbyty Abergele ac Ysbyty Gwynedd
Ysbyty Abergele oedd ag un o’r ffigurau isaf yng Nghymru ar gyfer iechyd a diogelwch. Roedd yn un o ddim ond tri ysbyty lle’r oedd llai na hanner yr arwynebedd llawr a oedd yn cael ei ddefnyddio yn bodloni’r gofynion statudol.
Y ffigur ar gyfer Cymru gyfan oedd 87% yn 2024–25.
O ran gofynion statudol diogelwch tân, roedd 50% o’r arwynebedd llawr a oedd yn cael ei ddefnyddio yn Ysbyty Abergele yn bodloni’r gofynion, o’i gymharu â 60% yn Ysbyty Gwynedd ac 84% ar draws Cymru.
Dywedodd y bwrdd iechyd wrth Newyddion S4C fod rhan sylweddol o safle Ysbyty Abergele yn cael ei defnyddio ar gyfer pethau fel storio a gwasanaethau cymorth, a bod hynny’n effeithio ar ffigurau’r ysbyty cyfan.
“Mae’r mannau clinigol, gan gynnwys wardiau cleifion mewnol a theatrau llawdriniaeth, yn bodloni’r gofynion i raddau llawer mwy nag y mae ffigur y safle cyfan yn ei awgrymu,” meddai’r bwrdd.
“Lle rydyn ni wedi nodi bylchau, rydyn ni’n mynd i’r afael â nhw drwy raglenni gwaith yn nhrefn blaenoriaeth, gan gyfeirio adnoddau i’r mannau lle mae’r risg fwyaf.”
£113.19m oedd cyfanswm y gwaith oedd ei angen yn Ysbyty Gwynedd, yr uchaf ar unrhyw un o safleoedd Betsi Cadwaladr.
Dywedodd y bwrdd fod y ffigurau ar gyfer Ysbyty Gwynedd yn adlewyrchu’r her o gynnal ac uwchraddio ysbyty sydd wedi bod ar agor ers degawdau, gan barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ddydd a nos.
Pwysleisiodd y bwrdd nad oedd y ffigur o 60% yn golygu bod y 40% arall o’r arwynebedd llawr yn anniogel. Dywedodd ei fod wedi asesu’r bylchau o ran cydymffurfio a’r gwaith cynnal a chadw oedd heb ei gwblhau, a’i fod yn rheoli’r risgiau.
“Mae’r bwrdd iechyd wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i wella diogelwch tân. Mae’r gwaith yn cael ei gwblhau fesul cam er mwyn cadw gwasanaethau clinigol hanfodol ar waith, gan flaenoriaethu ar sail y risg a’r angen i gadw’r gwasanaethau hynny i redeg.”
