'Proses yw datganoli': Arweinydd Llafur Cymru yn galw ar Lywodraethau Cymru a'r DU i barhau i drafod

Andy Burnham, Rhun ap Iorwerth a Ken Skates

Dridiau ers i Brif Weinidog  Llafur y DU wrthod galwadau i ddatganoli pwerau dros seilwaith y rheilffyrdd, plismona a chyfiawnder, ac Ystâd y Goron i Gymru, mae arweinydd Llafur Cymru wedi galw ar lywodraethau Cymru a'r DU i barhau i drafod. 

Mae Rhun ap Iorwerth wedi cyhuddo Andy Burnham o "droi ei gefn ar Gymru" ar ôl derbyn llythyr ganddo yn nodi nad wedi ei "argyhoeddi" gan y ddadl dros ddatganoli’r cyfrifoldebau hynny. 

Dywedodd Andy Burnham ei fod yn “credu’n gryf” bod y trefniadau datganoli presennol yn galluogi Cymru i "elwa ar adnoddau, arbenigedd a chydnerthedd" y system gyfiawnder sy’n gwasanaethu Cymru a Lloegr.

Ychwanegodd mai “model presennol Ystâd y Goron yw’r ffordd orau o sicrhau’r manteision economaidd a chymdeithasol mwyaf posibl i Gymru”.

Wrth sôn am seilwaith y rheilffyrdd, dywedodd Mr Burnham: “Rwy’n credu mai’r corff newydd, Great British Railways, sydd yn y sefyllfa orau i ariannu a chyflawni prosiectau seilwaith, gan gydweithio â Thrafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru.”

Nos Lun, dywedodd arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates ei fod yn annog y ddau arweinydd i barhau i gydweithio er mwyn datganoli grymoedd i Gymru.  

"Rydych yn trafod o amgylch bwrdd," meddai.  

"A dydych chi ddim yn cerdded oddi yno pan fo angen i'r gwaith barhau. Mae datganoli yn broses, nid digwyddiad ac mae safbwynt Llafur Cymru yn dal i fod yn glir, ein bod yn cefnogi datganoli pellach i Gymru."  

"Sicrhaodd Llafur Cymru £14bn ar gyfer rheilffyrdd Cymru, nid drwy lythyr, ond trwy drafodaethau a gwaith caled dros gyfnod o fisoedd a blynyddoedd.  

"Rydw i'n siarad â Phrif Weinidog y DU a byddaf yn cyfarfod ag e. Mae'r agenda hwn yn rhy bwysig i'w gyfyngu i gyfnewid llythyron," meddai.  

"Mae Llywodraeth Plaid Cymru yn gwrthwynebu llythyr Prif Weinidog y DU, ond roedd addewidion yno na ddylai Gweinidogion Cymru gefnu arnyn nhw."  

"Rydym angen gweithredu cyn gynted â bo modd er mwyn dod â'r grymoedd hyn i Gymru."  

Nos Lun, dridiau ers derbyn llythyr Mr Burnham, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth ddatganiad yn datgan ei siom unwaith eto, gan ddisgrifio'r setliad presennol fel un "annheg, anghyfiawn ac anghynaliadwy." 

"Yn ystod chwe mis cyntaf tymor y Senedd hon, rydym wedi cymryd camau i ailosod y berthynas â Llywodraeth y DU, gan ddadlau’r achos i Gymru gael ei thrin â thegwch a pharch ar bob cyfle," meddai. 

"Rwyf wedi ymwneud â Phrif Weinidog y DU yn yr ysbryd hwnnw, yn ddidwyll ac ag uchelgais ar gyfer yr hyn y gall ein llywodraethau ei gyflawni gyda’i gilydd, gan geisio gweithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu."

"Er fy mod yn falch bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud o ran hyblygrwydd cyllidol, ac y bydd fy nghynnig am Bartneriaeth ar gyfer Twf yn ganolog i’r trafodaethau ar yr economi, mae ymateb Prif Weinidog y DU yn siomedig iawn."

"Mae’r gwrthod hyd yn oed i ystyried datganoli Ystad y Goron, cyfiawnder a phlismona, a seilwaith rheilffyrdd yn profi nad yw Prif Weinidog y DU yn gweld Cymru fel cenedl gyfartal."

'Annheg ac anghyfiawn'

Mae Arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o geisio sichrau mwy o rymoedd, dim ond er mwyn gwneud hynny, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn y gall y grymoedd hynny eu cyflawni.

Ond gwrthod hynny mae Rhun ap Iorwerth yn ei ddatganiad. 

"Nid sicrhau mwy o bwerau dim ond er mwyn gwneud hynny yw nod y llywodraeth hon. Mae’r setliad presennol yn annheg, yn anghyfiawn ac yn anghynaliadwy. 

"Nid yw Cymru yn cael y cyfle i elwa ar ei hadnoddau naturiol, i gael cyfran deg o’r buddsoddiad mewn rheilffyrdd, nac i ddatblygu system gyfiawnder sy’n diwallu anghenion ein pobl," meddai. 

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn bwriadu gwneud Datganiad Llafar ynghylch y mater ddydd Mawrth.

TUC Cymru 

A nos Lun, mae undeb llafur TUC Cymru wedi beriniadu Llywodraeth y DU yn hallt gan alw arnyn nhw i ddatganoli rhagor o rymoedd i Gymru a rhoi buddsoddiad teg i wasanaethau cyhoeddus. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol Laura Doel: "Mae pobl sy'n gweithio yng Nghymru yn haeddu sgwrs o ddifrif ynghylch a yw penderfyniadau yn cael eu gwneud mewn ffyrdd sy'n darparu gwell swyddi, gwasanaethauu cyhoeddus cryfach a buddsoddiad teg." 

"Mae TUC Cymru yn cefnogi datganoli pellach, ond nid er mwyn gwneud hynny yn unig. Mae ein ffocws ar sicrhau'r grymoedd a'r adnoddau sydd eu hangen i wella bywydau bobl sy'n gweithio.  

"Dyna farn TUC Cymru ers amser hir, ac mae'n siomedig bod ein galwadau wedi eu diystyru neb unryw drafodaeth."  

"Rydym yn gofyn i Lywodraeth y DU wneud mwy i barchu ac ymweud a'r sefydliadau democratiadd yng Nghymru, a gwrando ar leisiau gweithwyr Cymreig, yn hytrach na chefnu ar argymhellion ar gyfer datganoli pellach cyn iddyn nhw gael eu hystyried yn iawn." 

Mae'r undeb wedi galw am gyfarfod brys ag Ysgrifennydd Cymru yn San Steffan, Stephen Kinnock i drafod y mater.  

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Llywodraeth y DU i ofyn am eu hymateb i alwadau Llafur Cymru.  

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.