Vitor Matos yn gadael Abertawe i fod yn brif hyfforddwr RC Strasbourg
Mae prif hyfforddwr Clwb Pêl-droed Abertawe, Vitor Matos, wedi cael ei benodi'n brif hyfforddwr newydd RC Strasbourg yn Ffrainc.
Fe gyhoeddodd y clwb o Ligue 1 y newyddion nos Fercher, er nad yw Abertawe wedi cadarnhau ymadawiad yr hyfforddwr o Portiwgal eto.
Cafodd Matos, 38 oed, ei benodi'n brif hyfforddwr Abertawe ym mis Tachwedd 2025, yn dilyn diswyddiad Alan Sheehan.
Roedd o dan gytundeb gyda'r Elyrch tan 2030, ac yn ôl adroddiadau, mae disgwyl i Abertawe dderbyn tua £5 miliwn mewn iawndal.
Mae Strasbourg o dan yr un berchnogaeth â Chelsea, ac yn y 13eg safle yn Uwch Gynghrair Ffrainc ar hyn o bryd.
Cyfnod Matos yn Abertawe
Roedd yr Elyrch yn yr 20fed safle ym Mhencampwriaeth Lloegr pan gyrhaeddodd Matos, gyda'r clwb yn wynebu brwydr i osgoi disgyn o'r gynghrair.
Llwyddodd Matos i drawsnewid perfformiadau'r tîm, gan ennill 14 o'i 30 gêm gynghrair yn ystod gweddill y tymor.
Gorffennodd Abertawe dymor 2025-26 yn yr 11eg safle gyda 64 pwynt.
Mae'r Elyrch wedi mwynhau dechrau cadarnhaol i'r tymor presennol hefyd, gyda'r tîm yn y chweched safle yn y Bencampwriaeth ar ôl casglu 26 pwynt o 15 gêm.
Pwy fydd yn cymryd yr awenau?
Yn ôl adroddiadau, mae'r cyn-gapten Ashley Williams mewn trafodaethau ynglŷn â dychwelyd i Abertawe fel rhan o dîm hyfforddi dros dro.
Fe allai ymuno â Leon Britton a Kristian O'Leary wrth i'r clwb chwilio am brif hyfforddwr parhaol.
Nid yw Abertawe wedi cadarnhau'r trefniadau eto.
Bydd yr Elyrch yn croesawu West Bromwich Albion ddydd Sadwrn, cyn teithio i Middlesbrough ddydd Mawrth.
Yna bydd y clwb yn wynebu Caerdydd yn Stadiwm Swansea.com ddydd Sul 29 Tachwedd.