TUC Cymru'n rhybuddio am beryglon AI i swyddi gweithwyr

Ceri Williams AI - TUC

Mae TUC Cymru wedi rhybuddio am y risgiau i weithwyr os nad yw deallusrwydd artiffisial (AI) a thechnolegau newydd yn cael eu cyflwyno gyda mesurau diogelu priodol.

Mewn adroddiad newydd, mae'r corff sy'n cynrychioli undebau llafur yng Nghymru yn dweud y gallai technoleg newydd arwain at fwy o bwysau ar staff, monitro gweithwyr a pherygl i swyddi.

Ond mae'n dweud bod cyfle i Gymru arwain y ffordd wrth ddatblygu technoleg sy'n rhoi anghenion gweithwyr yn gyntaf.

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cyhoeddi canllawiau ar ddefnyddio AI yn gyfrifol yn y sector cyhoeddus, gan roi llais gweithwyr a goruchwyliaeth gan bobl wrth wraidd y broses.

Mae adroddiad TUC Cymru yn argymell sefydlu rhaglen ymchwil wedi'i hariannu'n gyhoeddus mewn partneriaeth â gweithwyr, undebau llafur, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru.

Byddai'r gwaith yn cynnwys datblygu fframwaith Cymreig ar gyfer technoleg sy'n canolbwyntio ar weithwyr, ynghyd â chynnal prosiect peilot, o bosibl yn y sector gofal cymdeithasol.

Pryderon am AI

Mae'r adroddiad yn seiliedig ar weithdy gyda dros 20 o gynrychiolwyr a swyddogion undebau llafur yng Nghymru.

Roedd rhai cyfranogwyr wedi gorfod ail-wneud gwaith oherwydd camgymeriadau AI, tra bod pryderon hefyd am orddibyniaeth ar dechnoleg a'r posibilrwydd o golli sgiliau.

Codwyd pryderon hefyd am effaith systemau sydd wedi cael eu hyfforddi a'u datblygu yn Saesneg ar ddefnyddio a deall y Gymraeg, yn ogystal â'u defnyddioldeb i bobl ag acenion cryfach.

Roedd colli swyddi yn bryder arall, gyda'r adroddiad yn nodi un achos lle'r oedd defnyddio meddalwedd i fonitro gweithwyr wedi arwain at brosesau rheoli perfformiad a cholli swyddi.

Nid yw'r adroddiad yn nodi bod AI wedi cael ei ddefnyddio yn yr achos hwnnw.

'Cyfle unigryw i Gymru'

Dywedodd Sandy Gould, academydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac un o awduron yr adroddiad, fod Cymru mewn sefyllfa unigryw i ddatblygu technoleg er budd gweithwyr.

"Mae ei system o arloesi, ynghyd â'i hamgylchedd polisi, yn golygu bod Cymru mewn sefyllfa unigryw i ailgyfeirio arloesedd er mwyn cefnogi datblygiad technolegol sy'n creu gwaith da," meddai.

Dywedodd Ceri Williams, swyddog polisi TUC Cymru, fod cyfraniad gweithwyr yn hanfodol.

"Nid sicrhau bod AI yn darparu gwaith teg yn unig yw'r nod, ond hefyd sicrhau ei fod yn cyflawni'r cynnydd mewn cynhyrchiant y mae'n ei addo." meddai.

"Gyda chefnogaeth cyflogwyr, Llywodraeth Cymru ac undebau, gallai Cymru arwain y ffordd ym maes AI sy'n canolbwyntio ar weithwyr ac sy'n cynnal swyddi da ar draws yr economi."

Ymateb y llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod gan AI y potensial i wella gwasanaethau cyhoeddus a chynhyrchiant.

"Rydyn ni am i Gymru wireddu'r manteision hynny'n ddiogel ac yn gyfrifol," meddai.

"Rydyn ni'n canolbwyntio ar weithredu'n ymarferol, gan roi'r trefniadau llywodraethu a'r sylfeini digidol ar waith er mwyn mabwysiadu AI yn ddiogel ac yn effeithiol."

Ychwanegodd fod Cyngor Partneriaeth Gweithlu Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar ddefnyddio AI yn foesegol ac yn gyfrifol yn y sector cyhoeddus.

"Mae hyn yn atgyfnerthu ein dull Cymreig unigryw o bartneriaeth gymdeithasol.

"Mae'n rhoi llais gweithwyr, gwaith teg a goruchwyliaeth gan bobl wrth wraidd y broses o fabwysiadu AI yn gyfrifol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.