Caerfyrddin: Tynnu arwydd ar ôl ei osod o flaen cerflun hanesyddol

Yr arwydd

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi dweud ei fod wedi tynnu arwydd ar ôl iddo gael ei osod yn y “man anghywir”, o flaen cerflun hanesyddol yn nhref Caerfyrddin.

Roedd cwynion ar-lein ar ôl i’r arwydd mawr gael ei osod ar Sgwâr Nott. 

Roedd yr arwydd yn nodi faint o amser mae’n ei gymryd i gerdded i rai o brif safleoedd y dref, gan gynnwys yr orsaf drenau a’r castell.

Roedd yr arwydd wedi ei osod yn union o flaen cerflun William Nott ar y sgwâr, gyferbyn â phorth y castell.

Mewn fideo ar-lein, fe wnaeth y blogiwr teithio Jason Thomas feirniadu’r penderfyniad i osod yr arwydd.

“Maen nhw wedi gosod arwydd anferth yn hybu’r dref o flaen cerflun eiconig Sgwâr Nott,” meddai.

Yn ôl Mr Thomas, doedd y wybodaeth ar yr arwydd ddim yn cyfateb i'w leoliad. Roedd yr arwydd yn dweud y byddai’n cymryd munud i gerdded i’r castell, a oedd ond ychydig droedfeddi i ffwrdd.

Roedd yr arwydd hefyd yn dweud bod yr orsaf drenau dair munud i ffwrdd ar droed. Yn ôl Mr Thomas, roedd y daith yn nes at 10 munud.

“Dwi’n gwybod bod y cyngor yn cael ambell i beth o’i le, ond mae hyn yn fler iawn,” meddai.

Fe wnaeth un o gynghorwyr sir y dref, Alun Lenny, ymateb ddydd Mawrth gan ddweud nad oedd wedi gweld yr arwydd ond ei fod wedi ei frawychu a'i fod yn "annerbyniol".

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor wrth Newyddion S4C fod yr arwydd wedi ei osod yn y man anghywir.

“Mae arwyddion wedi'u gosod fel rhan o welliannau cyfeirio ehangach i helpu ymwelwyr a thwristiaeth yng nghanol y dref,” meddai.

“Yn anffodus, cafodd un arwydd ei osod yn y man anghywir o flaen cofeb hanesyddol.

“Rydym yn sylweddoli nad yw hwn yn lleoliad addas, felly rydym wedi tynnu'r arwydd oddi yno ac wrthi'n trefnu ei fod yn cael ei adleoli.”

Pan aeth Newyddion S4C draw i safle’r arwydd ddydd Mercher, roedd wedi mynd a chôn yn sefyll yn ei le.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.