Cymru v Awstralia: Wainwright ac Adams yn ôl wrth i Tandy wneud pedwar newid

Wainwright / Adams (Huw Evans)

Mae Steve Tandy wedi gwneud pedwar newid i dîm rygbi Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd nos Sadwrn (20.10).

Mae Aaron Wainwright, Alex Mann, Ben Cartrer a Josh Adams yn dychwelyd i'r tîm yn dilyn y fuddugoliaeth hanesyddol o 35-28 dros Seland Newydd ddydd Sadwrn diwethaf.

Ymhlith y chwaraewyr sydd heb eu cynnwys yn y garfan y tro hwn mae Seren y Gêm yn erbyn y Crysau Duon, James Botham, sydd yn disgwyl genedigaeth ei blentyn cyntaf.

Mae Taine Basham, Adam Beard a Gabriel Hamer-Webb hefyd yn methu allan.

Ymhlith yr eilyddion, mae disgwyl i Kane James chwarae ei gêm gartref gyntaf dros Gymru, ar ôl iddo ennill ei gap cyntaf yn Ariannin yn ail rownd o gemau’r gystadleuaeth dros yr haf.

Dywedodd Steve Tandy: "Roedden ni gyd mor falch ein bod wedi llwyddo i greu tipyn o hanes y penwythnos diwethaf. 

"Mae’r wythnos yma’n cynnig cyfle a her arall i ni wrth i ni wynebu Awstralia ac ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld os allwn ni berfformio gystal yr wythnos hon hefyd.

"Dyma’n gêm gartref olaf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd. Mae’r gefnogaeth ry’n ni wedi ei derbyn yn ein gemau cartref wedi bod yn wych ac mae’r chwaraewyr a’r staff yn gwerthfawrogi hynny’n fawr. Mae pawb yn awchu i fynd yn ôl i Stadiwm Principality y penwythnos yma."

Yn dilyn gêm nos Sadwrn, bydd safle terfynol Cymru yn nhabl Hemisffer y Gogledd yn cael ei gadarnhau, ynghyd â’u gwrthwynebwyr ar gyfer penwythnos y rowndiau terfynol.

Bydd chwe gêm yn cael eu cynnal dros dri diwrnod yn Stadiwm Allianz, Twickenham, lle bydd pob un o’r 12 tîm yn cystadlu i sicrhau eu safle terfynol ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd. 

Fe fydd pob gwlad hefyd yn ennill pwyntiau dros eu Hemisffer eu hunain – ac felly erbyn diwedd y penwythnos terfynol byddwn yn gwybod os mai Hemisffer y De neu’r Gogledd sydd gryfaf.

Mae Jarrod Evans wedi cael ei alw i garfan ehangach Cymru ar gyfer gweddill Pencampwriaeth y Cenhedloedd eleni wedi i Dan Edwards ddioddef anaf i’w bigwrn wrth ymarfer yr wythnos hon.

Tîm Cymru i wynebu Awstralia:

15. Blair Murray (Scarlets – 21 cap) 
14. Louis Rees-Zammit (Bryste – 45 cap)
13. Eddie James (Scarlets – 13 cap)
12. Max Llewellyn (Caerloyw – 15 cap)
11. Josh Adams (Caerdydd – 74 cap)
10. Sam Costelow (Scarlets – 24 cap)
9. Tomos Williams (Saracens – 77 cap)
1. Nicky Smith (Sale Sharks – 68 cap)
2. Dewi Lake (Caerloyw – 36 cap) Capten
3. Archie Griffin (Caerfaddon – 18 cap)
4. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 33 cap)
5. Ben Carter (Dreigiau – 23 cap)
6. Alex Mann (Caerdydd – 19 cap)
7. Jac Morgan (Caerloyw – 29 cap) 
8. Aaron Wainwright (Caerlŷr – 71 cap)

Eilyddion
16. Ryan Elias (Scarlets – 53 cap)
17. Gareth Thomas (Gweilch – 45 cap)
18. Dillon Lewis (Dreigiau – 61 cap)
19. Taine Plumtree (Scarlets – 16 cap)
20. Kane James (Caerwysg – 1 cap)
21. Reuben Morgan-Williams (Gweilch – 4 cap)
22. Joe Hawkins (Scarlets – 14 cap)
23. Louie Hennessey (Caerfaddon – 2 cap)

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.