'Dim grym' gan Lywodraeth Prydain i orfodi Google i ddileu fideo Russell Brand
Does gan Lywodraeth Prydain ddim grym i orfodi Google i ddileu fideo YouTube lle mae Russell Brand yn honni ei fod yn ddieuog o'r troseddau y cafodd ei ddyfarnu'n euog ohonynt, yn ôl un o weinidogion y Llywodraeth.
Mae'r Llywodraeth wedi gofyn i Google, sy'n berchen ar YouTube, dynnu'r fideo oddi ar y wefan, gan ddweud y gallai achosi gofid i ddioddefwyr Brand.
Ond yn ôl y BBC, mae Google wedi gwrthod y cais ar ôl dod i'r casgliad nad oedd y fideo yn torri rheolau'r platfform.
Mae Brand yn cyflawni dedfryd o 10 mlynedd a hanner yn y carchar ar ôl cael ei ddyfarnu'n euog o droseddau rhyw, gan gynnwys treisio.
Ddydd Sul, fe wnaeth ei wraig, Laura Gallacher, ddarllen neges ganddo ar eu podlediad YouTube, lle roedd yn mynnu ei fod yn ddieuog o'r troseddau.
Mae ymchwiliad swyddogol bellach wedi dechrau i weld a oedd Brand wedi torri rheolau'r carchar drwy anfon y neges.
'Dim grym i orfodi'
Wrth siarad ar raglen BBC Breakfast fore Iau, dywedodd y gweinidog tai, Matthew Pennycook, nad oedd gan y Llywodraeth y grym i orfodi Google i ddileu'r fideo.
"Does gennym ni ddim grym i orfodi dileu cynnwys. Mater i Google yw hynny, yn seiliedig ar eu telerau ac amodau," meddai.
"Ond fel rydw i wedi ei gwneud yn glir iawn, rydyn ni wedi gwneud cais yn yr achos hwn oherwydd ein bod yn teimlo'n gryf na ddylai dioddefwyr orfod gweld y cynnwys hwn."
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai Google yn newid y penderfyniad, gan gyfeirio at gamau blaenorol y cwmni yn erbyn Brand.
Yn 2023, fe wnaeth YouTube atal Brand rhag gwneud arian o'i sianel oherwydd pryderon am ei ymddygiad y tu allan i'r platfform.
Dywedodd Mr Pennycook wrth Sky News hefyd fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn parhau i drafod y mater gyda Google.
Ymateb y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae'n gwbl briodol bod y Llywodraeth yn gofyn i gynnwys sy'n achosi gofid i ddioddefwyr gael ei ddileu, ac rydyn ni'n credu'n gryf y dylai YouTube dynnu'r cynnwys hwn i lawr.
"Yn y pen draw, mae dileu'r cynnwys yn dibynnu ar delerau'r platfform ei hun."
Fe wnaeth Meta analluogi cyfrifon Instagram a Facebook Brand yn dilyn ei euogfarn.
Mae Google wedi cael cais am ymateb.