'Cam wrth gam': Clwb golff yn diolch am gymorth wedi tân dinistriol
Mae clwb golff yn y gogledd wedi diolch i'w aelodau, gwirfoddolwyr a'r gymuned leol yn ystod yr wythnosau diwethaf yn dilyn tân difrifol ym mhrif adeilad y clwb.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu glaw i'r digwyddiad yng Nghlwb Golff Conwy ar nos Sadwrn 31 Hydref, pan gafodd adeilad y clwb ei ddinistrio'n sylweddol.
Ni chafodd neb eu hanafu yn y tân yn ardal Morfa Conwy.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol mae'r clwb wedi diolch i bawb sydd wedi cynnig cymorth mewn cyfnod mor heriol:
"Does dim gwadu ei fod wedi bod yn gyfnod heriol, ac mae llawer o waith o hyd o'n blaenau, ond mae gweld sut mae ein staff, ein haelodau, a'r gymuned golff ehangach wedi dod at ei gilydd wedi bod yn anhygoel", meddai'r datganiad.
"Mae wir yn dangos beth sy'n gwneud Conwy yn lle mor arbennig.
"Diolch i lawer iawn o waith y tu ôl i'r llenni, llwyddwyd i ddarparu cyfleusterau dros dro ar y safle ac ailagor y cwrs ddydd Gwener, 6 Tachwedd.
"Mae cael y cwrs ar agor ers bron i bythefnos bellach wedi bod yn hwb enfawr, ac mae wedi bod yn wych gweld aelodau ac ymwelwyr fel ei gilydd yn mwynhau chwarae golff ac yn cefnogi'r clwb.
"Diolch enfawr i'n holl staff am y ffordd y maent wedi ymdopi â phopeth o dan amgylchiadau anhygoel, ac i bawb sydd wedi ein cefnogi ac wedi helpu i'n cyrraedd y pwynt hwn."
Ychwanegodd y clwb eu bod yn "symud ymlaen gam wrth gam."
Llun: Clwb Golff Conwy