Xi Jinping, Vladimir Putin a Donald Trump i gynnal cyfarfod hanesyddol
Bydd y tri arweinydd Xi Jinping, Vladimir Putin a Donald Trump yn cynnal cyfarfod ar y cyd fore dydd Iau ar ddiwrnod olaf uwchgynhadled Apec yn Shenzhen, Tsieina.
Mewn digwyddiad sydd yn arwydd o'r drefn ryngwladol newydd, mae pynciau fel y rhyfeloedd yn Wcráin ac Iran, datblygiad AI, sancsiynau economaidd a'r honiadau ysbïo am gyn-bennaeth cwmni technoleg Nvidia yn gefndir i'r cyfarfod.
Wrth i'r rhyfel yn Wcráin agosáu at ei phumed flwyddyn, fe fydd y cyfarfod hanesyddol yn cael ei lygadu gyda chryn bryder yn Ewrop.
Er mai ychydig iawn o amser fydd gan y tri i siarad mewn unrhyw fanylder yn ystod y cyfarfod ffurfiol o Apec, bydd cyfle iddyn nhw drafod materon yn fanylach mewn cyfarfod ar y cyrion yn ddiweddarach.
I XI o Tsieina, mae'r digwyddiad yn gyfle iddo ddangos dylanwad Tsieina i'r byd, ac i Vladimir Putin fe fydd yn
Cafodd cyfarfod un-i-un ar wahân rhwng Trump a Putin ar ymylon yr uwchgynhadledd ei gynnal yn gynnar fore ddydd Iau.
Dywedodd Trump ar ddechrau'r cyfarfod fod y ddau wedi mwynhau "perthynas wych ers blynyddoedd lawer," gyda'r Kremlin yn adrodd fod Putin wedi gadael y trafodaethau mewn "hwyliau ardderchog," gyda'r rhyfel yn Wcráin yn brif bwnc y drafodaeth.
Yn dilyn ei drafodaethau â Putin, mae Trump wedi cyfarfod Xi Jinping mewn fila lan llyn yn Shenzhen.
Cyn y trafodaethau, disgrifiodd Trump Xi fel "ffrind" gan ychwanegu fod yr Unol Daleithiau a Tsieina wedi rhannu tariffau rhyngwladol mewn "ffordd deg".
Mae Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, ac arweinwyr Ewropeaidd wedi mynegi pryder am yr uwchgynhadledd, gan rybuddio yn erbyn "Yalta 2" lle mae'r pwerau mawr yn gwneud penderfyniadau am ddyfodol Wcráin heb i Kyiv na Ewrop fod yn rhan o'r trafodaethau.
Prif lun: Reuters