Nvidia: Pam fod bywyd personol pennaeth cwmni mwyaf gwerthfawr y byd yn y newyddion?
Mae bywyd personol pennaeth un o gwmnïau mwyaf gwerthfawr y byd wedi denu sylw mawr fore dydd Llun.
Ond pam mae'r hyn y mae Jensen Huang, prif weithredwr y cwmni technoleg Nvidia, wedi'i wneud wedi achosi cymaint o bryder?
Mae Nvidia yn gwmni sy'n werth tua $4.5 triliwn ac mae'n chwarae rhan allweddol yn natblygiad technoleg deallusrwydd artiffisial (AI) yn yr Unol Daleithiau.
Mae'r cwmni'n cynhyrchu sglodion cyfrifiadurol datblygedig sy'n hanfodol i'r diwydiant AI, mewn maes lle mae cyfrinachau masnachol yn hynod bwysig.
Gan fod yr Unol Daleithiau yn dibynnu ar dechnoleg Nvidia i gynnal ei mantais gystadleuol dros wledydd fel Tsieina, mae honiadau am berthynas bersonol pennaeth y cwmni wedi codi pryderon ynghylch diogelwch cenedlaethol.
Ysbïwraig honedig
Mae adroddiadau am berthynas rhwng Jensen Huang a menyw sy'n cael ei hamau o ysbïo ar ran Tsieina wedi achosi dadlau gwleidyddol a masnachol yn yr Unol Daleithiau.
Ddydd Sul, anfonodd Huang neges at staff Nvidia yn ymddiheuro am fod yn anffyddlon i'w wraig.
Mae'r ddau wedi bod yn briod ers tua 40 mlynedd.
Dywedodd nad oedd "dim esgus" dros yr hyn yr oedd wedi'i wneud a'i fod yn cymryd cyfrifoldeb llawn am ei weithredoedd.
Er iddo gydnabod ei gamymddygiad personol, nid oedd sôn am ysbïo na chyfrinachau masnachol neu genedlaethol yn ei neges.
Mae'r sgandal wedi dwysáu yn dilyn adroddiadau am y fenyw y mae Huang wedi bod mewn perthynas â hi.
Yn ôl adroddiadau, ei henw yw Alice Huang (dim perthynas i Jensen Huang).
Mae hi'n ddinesydd Tsieineaidd ac yn gyn-gyfarwyddwr gyda Megaspeed, cwmni technoleg o Singapore sy'n ymwneud â chanolfannau data.
Mae Megaspeed wedi bod yn gwsmer i Nvidia.
Honiadau o ysbïo
Yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau Americanaidd, fe ddaeth asiantaethau cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau i'r casgliad bod Alice Huang wedi cael ei recriwtio gan Weinyddiaeth Diogelwch Gwladwriaethol Tsieina i gasglu gwybodaeth am Jensen Huang.
Y gred yw bod awdurdodau America wedi bod yn cadw llygad ar Alice Huang ers peth amser oherwydd pryderon am ei chysylltiadau â Tsieina a'i pherthynas agos â phrif weithredwr Nvidia.
Yn ôl yr adroddiadau, cafodd yr Arlywydd Donald Trump wybod am y pryderon tua blwyddyn yn ôl.
Mae rhai gwleidyddion yn Washington yn poeni y gallai Alice Huang fod wedi ceisio dylanwadu ar Jensen Huang i gefnogi llacio'r cyfyngiadau ar allforio sglodion AI datblygedig i Tsieina.
Nid oes tystiolaeth gyhoeddus wedi'i chyflwyno bod Huang wedi rhannu cyfrinachau masnachol na gwybodaeth sensitif am ddiogelwch cenedlaethol.
Mae llywodraeth Tsieina wedi gwadu'r honiadau o ysbïo.
Mae bwrdd cyfarwyddwyr Nvidia bellach wedi cyhoeddi ymchwiliad annibynnol i'r mater.
Yn ôl y cwmni does dim reswm i gredu bod cyfrinachau'r cwmni na diogelwch cenedlaethol wedi'u peryglu.
Yr Arlywydd yn ei amddiffyn
Mae Donald Trump wedi amddiffyn Jensen Huang ers i'r adroddiadau am ei fywyd personol ddod i'r amlwg.
Wrth siarad â newyddiadurwyr, disgrifiodd Trump Huang fel "person gwych" a "dyn anrhydeddus" sydd wedi gwneud "gwaith anhygoel" dros America.
Pan ofynnwyd iddo am y cysylltiad honedig ag ysbïo, wnaeth Trump ddim rhoi ateb uniongyrchol i'r cwestiwn.
"Roedd yn ymwneud â rhywun. Ond, wyddoch chi, mae pawb arall yn gwneud hynny hefyd," meddai.
Ychwanegodd Trump ei fod o'r farn y dylai Huang barhau yn ei swydd fel prif weithredwr Nvidia.
Pan ofynnwyd iddo a fyddai'r sgandal yn effeithio ar ei gynlluniau i gynnwys Huang ar daith arlywyddol i Asia, dywedodd Trump y byddai'n dal i ddod ar y daith.
"Dwi heb glywed ei fod wedi gwneud unrhyw beth o'i le," meddai'r Arlywydd.
