Charlotte Church yn cau ei chanolfan iachau ym Mhowys wedi pum mlynedd 'hyfryd'

Charlotte Church yn canu

Mae Charlotte Church wedi cyhoeddi ei bod yn cau ei chanolfan iachau a lles yn y canolbarth ar ôl pum mlynedd "hyfryd”.

Agorodd y gantores, sy’n 40 oed, ganolfan ‘The Dreaming’ yn 2022 ar ôl prynu cyn-gartref y dylunydd ffasiwn Laura Ashley.

Cafodd gwaith adnewyddu ar yr eiddo ei ddangos mewn cyfres ddogfen ar y Discovery Channel.

Roedd y ganolfan, oedd wedi’i lleoli yn Nhŷ Rhydoldog ger Rhaeadr Gwy ym Mhowys yn cynnig cyfle i bobl encilio gyda’r nod o'u helpu i ailgysylltu gyda natur.

Roedd y profiadau’n cynnwys iachâd trwy sain, ‘ymdrochi yn y goedwig’ a defodau Derwyddol.

Fis diwethaf, cyhoeddodd y ganolfan y byddai’n “rhoi’r gwaith ar stop” dros dro er mwyn “ail-asesu” beth y dylai ei gynnig.

Ond mae bellach wedi cadarnhau ei bod yn cau’n barhaol.

'Diwedd pennod arbennig'

Mewn datganiad ar Instagram, dywedodd The Dreaming: “Ar ôl pum mlynedd hyfryd, mae’n bryd ffarwelio â The Dreaming. Wrth i’r flwyddyn ddod i ben, ac i’r tir ymgartrefu yn ei gwsg gaeafol, rydym yn cyrraedd diwedd pennod arbennig iawn.

“Y tro diwethaf i ni ysgrifennu atoch, rhannwyd ein cynlluniau i The Dreaming gymryd seibiant - i adael y tir yn segur, i orffwys a gwneud lle ar gyfer yr hyn a allai ddod nesaf. 

"Bryd hynny, roeddem wedi gobeithio y byddai hwn yn gyfnod o aeafgysgu, yn hytrach na diwedd.

“Yn anffodus, rydym wedi sylweddoli nad cyfnod o aeafgysgu yn unig yw hwn, ond diwedd ein taith gyda The Dreaming. Am flynyddoedd hyfryd, gwyllt a rhyfeddol sydd wedi bod.”

Ychwanegodd y datganiad: “Gyda’n gilydd, rydym wedi canu, dawnsio, chwerthin, wylo, gorffwys, gwledda, crwydro drwy’r coed, plymio i ddŵr oer, eistedd o amgylch tanau ac edrych i fyny at y sêr. 

"Rydym wedi rhannu straeon, meithrin cyfeillgarwch, creu gofod i’n gilydd a dod o hyd i eiliadau o dawelwch mewn byd sy’n anaml iawn yn caniatáu i ni arafu.

“Mae miloedd ohonoch wedi dod i’r gornel fach hon o fryniau Cymru; mae pob un ohonoch wedi dod â rhywbeth ohonoch chi eich hunain, ac wedi gadael rhywbeth bach ar ôl. Chi sydd wedi gwneud The Dreaming yr hyn ydyw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.