Gobaith bydd ‘Effi o Blaenau’ yn ‘agor drysau i bobl a ffilmiau’ o Gymru dramor
Wrth i Effi o Flaenau gael ei dangos mewn mwy a mwy o sinemâu y tu hwnt i Brydain, mae cynhyrchydd y ffilm yn gobeithio y bydd y sylw rhyngwladol y mae'n ei dderbyn yn “agor drysau i bobl a ffilmiau” o Gymru.
Yr wythnos hon, bydd y ffilm yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Ngwlad Pwyl. Bydd hi'n ymddangos yng Ngŵyl Camerimage yn ninas Toruń ac mewn gŵyl ffilmiau Prydeinig yn Poznań.
Dywedodd trefnydd a churadur yr ŵyl yn Poznań fod Effi yn “ffenomen rhyngwladol” y mae “pobl yn siarad amdani”. Bydd y ffilm yn cael ei dangos gydag isdeitlau ddydd Mercher.
Mae'r dangosiadau hyn ymhlith y cyntaf i'r ffilm dramor. Er hynny mae mwy ar y gweill, gan gynnwys digwyddiadau yn Ffrainc a San Francisco, meddai'r cynhyrchydd Branwen Cennard wrth Newyddion S4C.
“O’n i’n gwybod bod y ffilm yn dda, ond er mawr falchder i ni i gyd, mi oedd yr ymateb i’r ffilm yn ffantastig, ymhell tu hwnt beth oedd rhywun wedi ei ddychmygu,” meddai.
“Mae hi’r ffilm Gymraeg ei hiaith sydd wedi gwneud orau erioed yn y box office - ac felly nawr rydyn ni nawr wedi cyrraedd y cyfnod lle ry’n ni mewn gwyliau a gwobrau.”
Mae'r llu o enwebiadau, gan gynnwys chwech yng Ngwobrau Ffilm Annibynnol Prydain (BIFA), wedi denu sylw selogion sinema ledled y byd at Effi.
Marc Evans sydd wedi cyfarwyddo'r ffilm, gyda Leisa Gwenllian yn serennu yn y brif rôl.
Mae'r ffilm yn dilyn Effi, merch ifanc sy'n byw mewn tref sydd wedi'i tharo'n galed gan golli diwydiant a chyfleoedd, gan archwilio effaith tlodi a gwasanaethau cyhoeddus sydd dan bwysau.
'Hynod gyffrous'
Mae gwahoddiadau i ddangos y ffilm yn parhau i gyrraedd, meddai Branwen.
Mae'n cydnabod bod “momentwm” wedi datblygu o gwmpas y ffilm yn dilyn adolygiadau cadarnhaol a'r llu o enwebiadau.
Ychwanegodd fod trafodaethau wedi dechrau ynghylch gwerthu hawliau'r ffilm, a allai arwain at ei dosbarthu'n rhyngwladol ar raddfa ehangach.
“Be’ o’n i eisio gwneud oedd ffilm iaith Gymraeg oedd yn plesio pobl Cymru, dyna oedd y nod i fi. Mae’r ffaith bod e wedi gweithio’n ehangach wedi bod yn hynod gyffrous ac wedi, gobeithio, agor drysau i bobl ac i ffilmiau,” meddai.
Yn Poznań, dinas sydd ag adran Astudiaethau Celtaidd yn ei phrifysgol, mae'r gymuned fechan o siaradwyr Cymraeg yn edrych ymlaen at ddangosiad y ffilm yn sinema Kino Muza. Bydd y ffilm yn rhan o'r Ŵyl Ffilmiau Prydeinig flynyddol.
“Mae’r peth yn wych, dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn,” meddai Marta Listewnik, un o ddarlithwyr Cymraeg Prifysgol Adam Mickiewicz.
“Ychydig iawn o gyfleoedd i weld ffilmiau Cymraeg a Chymreig sydd wedi bod yn Poznań hyd yn hyn - a dweud y gwir, dyma’r tro cyntaf dwi’n gweld ffilm iaith Gymraeg mewn sinema yma.
“Dwi’n siŵr y bydd hefyd yn beth ffantastig i’n myfyrwyr ni sydd yn dysgu Cymraeg yn y brifysgol. Wrth gwrs ‘dan ni’n gwylio ffilmiau gyda nhw yn y brifysgol, ond peth arall ydy cael gweld dangosiad go iawn mewn sinema lleol.”
'Ffenomen rhyngwladol'
Yn wahanol i Marta, prin oedd Dorota Reksińska, curadur a threfnydd yr Ŵyl Ffilmiau Prydeinig yn Poznań, wedi clywed y Gymraeg cyn gwylio Effi.
Hon fydd y ffilm Gymraeg gyntaf i gael ei dangos yn yr ŵyl.
Mae Dorota'n disgrifio'r ffilm, sy'n seiliedig ar y ddrama lwyfan Iphigenia in Splott gan Gary Owen, fel “ffenomen rhyngwladol”.
“Mi wnes i wylio’r ffilm sawl mis yn ôl - ar y pryd do’n i ddim wedi rhagweld y byddai’n troi’n ffenomen rhyngwladol, y byddai’n cael enwebiadau ar gyfer y BIFAs ac y byddai’n teithio ar draws y byd,” meddai.
“Dwi’n meddwl bod y ffilm ar hyn o bryd mewn lle da iawn, achos mae pobl yn siarad amdani, a bydd y gwobrau ond yn helpu.
“Felly i fi mae’n gyfle gwych i ni gael y ffilm yn rhaglen yr ŵyl ac, i fod yn onest, erbyn heddiw fedra’ i ddim dychmygu’r rhaglen hebddi. Dwi’n teimlo’n gryf ei bod hi’n bwysig ein bod yn gallu ei sgrinio yn y Gymraeg.”
'Uniaethu ag Effi'
Un ffactor sydd wedi helpu ffilmiau mewn ieithoedd fel y Gymraeg yw poblogrwydd isdeitlau ymhlith pobl ifanc, meddai Branwen.
Mae Branwen ei hun wedi cael ei henwebu yng nghategori Cynhyrchydd Torri Drwodd (Breakthrough Producer) yng Ngwobrau Ffilm Annibynnol Prydain. Daw'r enwebiad ar ôl degawdau o weithio ym myd ffilm a theledu.
Ffactor arall, yn ogystal â safon y cynhyrchiad, yw'r themâu anodd sy'n cael eu trafod yn y ffilm, gan gynnwys tlodi, dirywiad cymunedau a dad-ddiwydiannu.
“Gawn ni weld sut bydden nhw’n ymateb y Poznań… ond dwi’n meddwl, yn wleidyddol, mae pobl yn gallu uniaethu gyda stori Effi. Mae hynna’n drist iawn i’w ddweud ond ma’ fe’n wir.
“Mae hi wedi cymryd tua 10 mlynedd i gynhyrchu’r ffilm ‘ma ond dwi’n meddwl bod ni wedi llwyddo i’w rhyddhau hi ar foment lle ma’ hi fwy perthnasol nag erioed.”
Lluniau sinema: Kino Muza/Gŵyl Ffilmiau Prydeinig, Poznań. Llun Branwen Cennard: X/Branwen Cennard.

