Yr awdur M John Harrison yn cipio Gwobr Booker yn 81 oed
Yr awdur M John Harrison sydd wedi cipio gwobr lenyddol y Booker eleni.
Harrison yw'r awdur hynaf erioed i ennill y wobr, ac yntau yn 81 oed.
Derbyniodd y wobr am ei nofel ddystopaidd 'The End Of Everything' sydd wedi’i lleoli ar arfordir Caint yn y dyfodol agos, ac sy’n trafod cyfnod o gwymp cymdeithasol.
Mae Gaby Wood, prif weithredwr Sefydliad Gwobr Booker, wedi disgrifio Harrison fel “meddyliwr gwirioneddol wreiddiol, awdur sy’n herio ffiniau genre ac yn cymryd syniadau o ddifrif”.
Daeth ei nofel ffuglen wyddonol i'r brig allan o restr fer o chwe llyfr gafodd ei ddewis gan banel o feirniaid dan gadeiryddiaeth y darlledwr Mary Beard.
Roedd y panel hefyd yn cynnwys Jarvis Cocker, prif leisydd y band Pulp, a’r bardd Raymond Antrobus.
Mae Harrison, fu’n un o feirniaid Gwobr Booker yn 2022, yn derbyn gwbobr o £50,000, ac fe gafodd dlws a gyflwynwyd iddo gan enillydd y llynedd, David Szalay, mewn seremoni yn Old Billingsgate yn Llundain nos Lun.
Mae 'The End Of Everything' wedi ei ddisgrifio fel “dychan dystopaidd sy’n archwilio terfynau dealltwriaeth ddynol”.
Yn 198 o dudalennau, hwn oedd y llyfr byrraf o holl lyfrau'r gystadleuaeth eleni.
Llun: PA
