Protestwyr newid hinsawdd wedi’u harestio am atal mynediad i Borthladd Dover

Mae 17 o brotestwyr grwp 'Insulate Britain' wedi eu harestio ar ôl atal mynediad i Borthladd Dover gan greu anhrefn i geir a lorïau.
Yn ôl The Evening Standard, mae mwy na 40 o bobl wedi bod yn eistedd yng nghanol ffordd yr A20 yng Nghaint fore dydd Gwener, gan stopio traffig rhag cyrraedd y dociau.
Daw hyn yn dilyn cyfres o wrthdystiadau gan grŵp Gwrthryfel Dyfodiant ar draffordd yr M25 dros y pythefnos diwethaf.
Dywedodd yr heddlu bod rhannau o'r ffordd bellach yn glir.
Darllenwch y stroi’n llawn yma.
Llun: Gareth Williams drwy Flickr