Ymchwiliad llofruddiaeth: Teyrnged teulu i 'ferch annwyl' a fu farw yn Llandudno
Mae teulu dynes a fu farw yn Llandudno, Sir Conwy, nos Sadwrn wedi rhoi teyrnged iddi.
Daeth swyddogion o hyd i gorff Eleanor O’Dell, 33 oed, mewn tŷ ar Ffordd Sant Seiriol yn y dref toc wedi 20.00.
Cafodd Christopher Thomas Ellis, dyn 36 oed ei arestio yn ddiweddarach a’i gyhuddo o’i llofruddio.
Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei theulu: "Roedd Eleanor yn berson addfwyn ei natur ac yn goleuo bywydau pawb.
"Mae colli ein merch annwyl wedi chwalu ein byd. Cafodd ei chymryd oddi wrthym, ac mae ein calonnau wedi torri’n llwyr.
"Rydym yn gwerthfawrogi’r holl gariad y mae hi wedi’i dderbyn, ac rydym yn ddiolchgar am yr holl eiriau o gefnogaeth."
Apêl am wybodaeth
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rob Mahoney o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ein cydymdeimlad yn parhau gyda ffrindiau ac anwyliaid Eleanor yn dilyn ei marwolaeth drasig.
"Mae ymholiadau’r heddlu yn parhau, a hoffwn apelio ar unrhyw un a oedd yng nghyffiniau Ffordd Sant Seiriol rhwng 19.00 a 22.30 ddydd Sadwrn, 31 Hydref, i gysylltu â ni.
"Efallai eich bod wedi gweld neu glywed rhywbeth, neu fod gennych luniau camera dashfwrdd neu ffôn symudol a allai gynorthwyo ein hymholiadau.
"Rydym yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach am y digwyddiad hwn gysylltu â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio byw ar-lein, neu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu cyfeirnod O178285.”