Cyhoeddi carfan pêl-droed Cymru i herio Norwy a Phortiwgal

Llun: Asiantaeth Huw Evans
Craig Bellamy

Mae Craig Bellamy wedi cyhoeddi carfan o 26 o chwaraewyr wrth i Gymru baratoi i wynebu Norwy a Phortiwgal yn ngemau olaf grŵp Cynghrair y Cenhedloedd UEFA eleni.

Mae sawl chwaraewr nad oedd ar gael ar gyfer y pedair gêm ar draws Medi a Hydref yn dychwelyd i’r garfan, gan gynnwys Harry Wilson, Joe Rodon a Karl Darlow. 

Mae’r golwr Joe Duncan hefyd wedi cael ei alwad gyntaf i’r garfan.

Fe wnaeth goliau gan Dan James a Neco Williams sicrhau triphwynt mewn buddugoliaeth 2-1 yn erbyn Norwy yng Nghaerdydd y mis diwethaf - buddugoliaeth gyntaf erioed Cymru yng Nghynrair A. 

Roedd y gêm yn Lisbon yn erbyn Portiwgal, sydd wedi ennill Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ddwywaith o blaen, yn golled o 1-0 yng ngêm agoriadol yr ymgyrch.

Fel y tîm yn y trydydd safle yng Nghynghrair A ar hyn o bryd, byddai gorffen yn un o'r ddau safle uchaf yn y grŵp yn sicrhau lle i Gymru yn rownd yr wyth olaf, fydd yn cael ei chynnal ym mis Mawrth 2027.

Bydd pedwar enillydd y rownd honno wedyn yn symud ymlaen i rowndiau terfynol Cynghrair y Cenhedloedd, fydd yn cael eu cynnal ym mis Mehefin 2027 gan un o’r cenhedloedd fydd yn cystadlu.

Bydd Cymru yn wynebu Norwy yn Stadiwm Ullevaal yn Oslo ar nos Sadwrn 14 Tachwedd, cyn dychwelyd adref i wynebu Portiwgal yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth 17 Tachwedd.

Carfan Cymru: Karl Darlow (Manchester United), Danny Ward (Wrecsam), Joe Duncan (Southend United, ar fenthyg o Bristol City), Jay Dasilva (Coventry City), Jayden Lienou (Leeds United), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Chris Mepham (West Bromwich Albion), Joe Rodon (Leeds United), Ben Cabango (Dinas Abertawe), Neco Williams (Nottingham Forest), Connor Roberts (Burnley), Ethan Ampadu (Leeds United), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Kai Andrews (Oxford United, ar fenthyg o Coventry City), Rubin Colwill (Dinas Caerdydd), Joel Colwill (Dinas Caerdydd), Harry Wilson (Leeds United), Liam Cullen (Leicester City), Cian Ashford (Dinas Caerdydd), Brennan Johnson (Everton), Sorba Thomas (Hull City), Lewis Koumas (Lerpwl), Kieffer Moore (Wrecsam), Mark Harris (Oxford United), Dan James (Leeds United), David Brooks (Bournemouth).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.