Y Democratiaid yn ennill rheolaeth dros y Gyngres

Cyngres America

Mewn diwrnod hanesyddol mae'r Democratiaid wedi ennill rheolaeth dros y Senedd a Thŷ'r Cynrychiolwyr yn etholiadau canol tymor yr Unol Daleithiau.

Mae'r canlyniad yn golygu mai nhw fydd yn rheoli'r Gyngres am weddill cyfnod Donald Trump fel arlywydd.

Fe enillodd y Democratiaid fuddugoliaethau mewn ardaloedd sydd wedi bod yn gadarnleoedd i'r Gweriniaethwyr yn hanesyddol, gan gynnwys yn Texas, Ohio a Kansas.

Wrth siarad â Fox News ar ôl i'r Gweriniaethwyr golli rheolaeth dros y Senedd, dywedodd Trump ei fod wedi cael sioc. 

“Wel, dwi wedi synnu rhywfaint. Roeddwn i’n meddwl y bydden nhw’n gwneud yn well. Fe gawson ni ralïau enfawr,” meddai.

“Roeddwn i’n meddwl y gallwn i droi’r gefnogaeth honno’n bleidleisiau i’r ymgeiswyr.”

Ond mewn neges ar y platfform cyfryngau cymdeithasol Truth Social, dywedodd Trump y byddai pethau wedi bod yn wahanol pe bai ei enw ar y papur pleidleisio.

Cafodd y Seneddwr Democrataidd Jon Ossoff ei ailethol yn Georgia, talaith oedd yn un o brif dargedau'r Gweriniaethwyr.

Mae'r dyn 39 oed yn cael ei ystyried yn ddarpar ymgeisydd ar gyfer etholiad arlywyddol 2028 ac mae wedi bod yn un o brif feirniaid arlywydd yr Unol Daleithiau.

Dywedodd Ossoff wrth ei gefnogwyr fod pobl America wedi “gwrthod anfoesoldeb, llygredd ac anghymhwysedd yr arlywydd aflwyddiannus Donald J Trump”.

Fe enillodd James Talarico etholiad i'r Senedd yn Texas, gan ddod y Democrat cyntaf i ennill yno ers bron 40 mlynedd. 

Llwyddodd y blaid hefyd i gipio cyfres o seddi oddi ar y Gweriniaethwyr yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr mewn taleithiau fel Kentucky, New Jersey a Gogledd Carolina.

Bydd y Democratiaid nawr yn gallu rhwystro rhai o gynlluniau Donald Trump yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.