Dirwy i fenyw oedd yn darparu triniaethau laser heb gofrestru
Mae menyw oedd yn darparu triniaethau laser ym Mhen-y-bont ar Ogwr heb gofrestru i wneud hynny wedi gorfod talu bron i £9,000 mewn dirwy a chostau.
Roedd Helen Mary Morgan-Wooldridge, oedd yn masnachu dan yr enw Fake It - Beauty and Aesthetics, yn euog o ddwy drosedd.
Fe gafodd ei herlyn ar ôl ymchwiliad troseddol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) fel rhan o'i rôl fel arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru.
Fe wnaeth y llys orchymyn iddi dalu £8,960, gan gynnwys dirwy a chostau AGIC a Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Scott Howe, Pennaeth Rheoleiddio ac Uwchgyfeirio Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, fod rhaid i ddarparwyr fod wedi'u cofrestru cyn darparu'r gwasanaethau hynny.
“Yn yr achos hwn, roedd triniaethau yn parhau ar ôl i AGIC egluro bod yn rhaid rhoi gorau i'r triniaethau cofrestradwy,” meddai.
“Daeth ein hymchwiliad o hyd i dystiolaeth a arweiniodd at yr erlyniad troseddol hwn yn y pen draw.
“Mae'r achos hwn yn anfon neges glir at ddarparwyr. Gall methu â chydymffurfio â gofynion cofrestru arwain at erlyniad troseddol ac euogfarn.
“Byddwn yn cymryd camau gorfodi priodol lle bo angen i amddiffyn pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.”
Ymweliad dirybudd
Ym mis Chwefror 2025, fe wnaeth AGIC nodi fod gwasanaethau laser a goleuni pwls dwys (intense pulsed light) anghofrestredig yn cael eu hysbysebu a'u darparu yn Fake It - Beauty and Aesthetics.
Cafodd y darparwr gyfarwyddyd ar 5 Mawrth 2025 i roi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hyn ar unwaith.
Ond roedd tystiolaeth a gafwyd yn ystod yr ymchwiliad yn dangos fod triniaethau anghofrestredig wedi parhau.
Fe wnaeth AGIC ymweld heb rybudd ar 11 Mehefin 2025 a gweld bod dwy ddyfais laser Dosbarth 4 yno, gan ddefnyddio ei phwerau o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 i gasglu tystiolaeth fel rhan o'i hymchwiliad.
Roedd cofnodion a gafwyd yn ystod yr ymchwiliad yn cynnwys manylion 55 o driniaethau laser a roddwyd i 16 o gwsmeriaid.
Roedd hynny’n cynnwys 19 o driniaethau a roddwyd ar ôl i AGIC gyfarwyddo'r darparwr i roi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau.
Fe wnaeth yr ymchwiliad hefyd ganfod fod tystysgrif gofrestru flaenorol AGIC, a oedd bellach yn annilys, wedi'i harddangos ar y safle.
Yn ystod cyfweliad o dan rybudd, fe wnaeth y darparwr dderbyn y gallai arddangos y dystysgrif flaenorol ar y safle newydd roi'r argraff i gwsmeriaid fod y gwasanaeth wedi'i gofrestru.
Ar ôl cwblhau ei hymchwiliad, fe wnaeth AGIC atgyfeirio yr achos at Wasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru i erlyn am droseddau o dan adrannau 11 a 26 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.