Caergybi: Agor cwest i farwolaeth dyn sy'n destun ymchwiliad llofruddiaeth

Michael Anthony Ward

Mae cwest i farwolaeth dyn o Gaergybi fis diwethaf wedi clywed ei fod wedi marw o ganlyniad i anafiadau i'w ben a'i wddf.

Bu farw Michael Anthony Ward, 53 oed, yn ei fflat yn Llys Watling yn y dref yn ystod oriau mân 15 Hydref. 

Cafodd mab 33 oed Mr Ward, Martin Ward, ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Roedd Michael Ward yn enedigol o Wolverhamton, ac roedd yn ddi-waith.

Wrth agor cwest i’w farwolaeth yng Nghaernarfon ddydd Mercher, dywedodd Sarah Riley, Crwner Cynorthwyol Gogledd Orllewin Cymru bod y gwasanaethau brys wedi eu galw i’w fflat yn dilyn adroddiad o berson yn dioddef ataliad ar y galon.

Bu farw Mr Ward yn y fan a’r lle, gyda pharafeddygon yn cadarnhau ei farwolaeth am 03.01.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ar Michael Ward gan batholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Metcalfe, yn Ysbyty Athrofaol Lerpwl.

Daeth yr archwiliad cychwynnol i'r canlyniad bod Michael Ward wedi marw o anafiadau i’w ben a’i wddf.

Dywedodd y crwner wrth y llys: “Rwyf nawr am ohirio’r cwest i farwolaeth Michael Anthony Ward, er mwyn gadael i achosion troseddol barhau.”

Mewn teyrnged fis diwethaf, dywedodd teulu Mr Ward y byddai colled fawr ar ei ôl:

"Roedd ein tad yn ddyn teulu cariadus hefo calon fawr. Bydd colled fawr ar ei ôl.

"'Da ni'n gofyn i bobl barchu ein preifatrwydd ni yn y cyfnod anodd hwn wrth i ni ddod i delerau â'n colled ni."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.