Llanuwchllyn: Dyn wedi marw o 'anafiadau lluosog' yn dilyn gwrthdrawiad

Chris Johnson

Mae cwest i farwolaeth dyn o’r Rhyl wedi clywed ei fod wedi marw o ganlyniad i anafiadau gwasgu lluosog ('multiple crush injuries') yn dilyn gwrthdrawiad yn Llanuwchllyn ger y Bala fis diwethaf.

Roedd Christopher Johnson, 58 oed, o Ffordd Aberkinsey, yn weithiwr cymdeithasol.

Bu farw mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar ffordd yr A494 yn Llanuwchllyn ar 15 Hydref.

Wrth agor cwest i’w farwolaeth yng Nghaernarfon ddydd Mercher, dywedodd Sarah Riley, Crwner Cynorthwyol Gogledd Orllewin Cymru fod y car BMW 2 Series yr oedd yn ei yrru wedi bod mewn gwrthdrawiad â char Mitsubishi.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i’r lleoliad am tua 19.35.

Cafodd Mr Johnson ei dynnu allan o’r cerbyd gan aelodau o'r Gwasanaeth Tân.

Fe wnaeth parafeddygon gadarnhau marwolaeth Mr Johnson yn ddiweddarach, ar ochr y ffordd, am 20.56.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal yn Ysbyty Glan Clwyd ar 22 Hydref, gyda’r patholegydd yn dod i'r canlyniad fod Mr Johnson wedi marw o anafiadau gwasgu lluosog ('multiple crush injuries').

Cafodd y cwest i’w farwolaeth ei agor a’i ohirio wrth i ymchwiliadau barhau.

Teyrnged

Mewn teyrnged fis diwethaf, dywedodd teulu Mr Johnson y bydd colled fawr ar ei ôl.

"Doedd Chris yn caru dim mwy na mynd allan gyda'i ffrindiau ar ei feic modur, gan deithio ar hyd ffyrdd prydferth gogledd Cymru, neu dreulio amser yn y gampfa," meddai'r teulu.

"Roedd bob amser yn barod i gefnogi unrhyw un, gan gynnwys ei deulu, ei ffrindiau a'i gydweithwyr, pan oedd angen cymorth arnyn nhw.

"Roedd Chris yn ŵr, tad, mab, taid, brawd, ewythr ac yn gefnder, ac yn ganolog i'n teulu"

Ychwanegodd y deyrnged: "Roedd yn gallu gwneud i chi wenu hyd yn oed yn ystod yr adegau anoddaf, ac roedd yn gweld yr ochr gadarnhaol i gymaint o bethau.

"Does dim geiriau i ddisgrifio'r effaith gafodd ar gynifer o bobl."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.