'Gwaeth ein byd' neu 'hwb aruthrol'? Dyma sydd yn y gyllideb i Gymru

John Healey, map o Gymru a'r Senedd

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £450 miliwn yn ychwanegol yn sgil cyllideb y Canghellor, John Healey, ond mae'r setliad yn "gadael Cymru yn waeth ei byd mewn termau real," yn ôl y gweinidog cyllid ym Mae Caerdydd.

O fuddsoddi mewn parc gwyddoniaeth ar Ynys Môn i gefnogi datblygiad gorsaf drenau newydd yng Nghaerdydd, mae sawl prosiect penodol yng Nghymru yn derbyn sylw yn y gyllideb gyntaf ers i Andy Burnham ddod yn Brif Weinidog ar y DU.

Mesurau i fynd i'r afael â chostau ynni sydd wedi hawlio'r penawdau ar draws Prydain, gyda llawer o'r mesurau hynny yn berthnasol i Gymru.

Wrth annerch y Senedd yn San Steffan, fe anogodd Mr Healey lywodraethau datganoledig y DU, gan gynnwys un Cymru, i ddilyn ei esiampl a chyflwyno taliad o £100 i aelwydydd i ddelio efo biliau trydan a nwy.

Ymhlith y buddsoddiadau uniongyrchol gafodd eu cyhoeddi oedd:

  • £11 miliwn at ddisodli pont Aberafan sy’n croesi Afon Afan ym Mhort Talbot
  • £2.5 miliwn i ehangu parc gwyddoniaeth M-Sparc ger Gaerwen ar Ynys Môn
  • £20 miliwn at gefnogi swyddi ym maes deallusrwydd artiffisial (AI)
  • £30 miliwn ar gyfer datblygu cynlluniau gorsaf drenau Parcffordd Caerdydd, gafodd eu cymeradwyo gan Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru ar y pryd, yn 2025
  • Taliad o £5 miliwn o gyllideb Bargen Twf Amddiffyn Cymru i sicrhau bod modd i Goleg Rhagoriaeth Dechnegol Amddiffyn Cymru baratoi at dderbyn myfyrwyr newydd

‘Cymru wedi ei hanwybyddu eto’

Mewn ymateb i'r gyllideb, dywedodd Elin Jones, gweinidog cyllid Llywodraeth Cymru, y bydd Cymru ar ei cholled mewn termau real.

"Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio cyflwyno'r gyllideb heddiw fel newyddion da i Gymru. Nid felly y mae. Ar ôl cyfrif am effaith chwyddiant, nid yw'r gyllideb hon yn gwella ein sefyllfa ariannol. Yn hytrach, mae'n golygu llai o gyllid i Gymru mewn termau real," meddai'r aelod o Blaid Cymru.

"Nid yw cyllideb heddiw wedi newid pethau yn y bôn. Mae ein sefyllfa gyllidol yn waeth nag yr oedd cyn i'r Canghellor gyflwyno ei gyllideb, ac mae gan hynny oblygiadau uniongyrchol i'n Cyllideb ein hunain ar 17 Tachwedd.  

"Bydd yn rhaid inni wneud penderfyniadau anodd, blaenoriaethu'n ofalus a sicrhau mwy o effeithlonrwydd ar draws y sector cyhoeddus, er mwyn cynnal buddsoddiad yn y meysydd sydd bwysicaf i bobl Cymru.

"O ran rheilffyrdd, hyblygrwydd cyllidol a gwasanaethau cyhoeddus, mae Cymru wedi cael ei hanwybyddu unwaith eto."

Image
Elin Jones, y Llywydd

Cyn y gyllideb, roedd Ms Jones wedi dweud fod Cymru'n "chwarae ei rhan lawn yn economi'r Deyrnas Unedig" gan alw am gyllid teg a mwy o fuddsoddi yng Nghymru.

Cyfeiriodd un o'i chyd-bleidwyr, yr AS yn San Steffan, Ben Lake, at faint y buddsoddiad mewn trenau yng Nghymru - gan ddweud bod bod "addewid o £14 biliwn" yn y tymor hir "wedi troi’n £30 miliwn yn y Gyllideb hon."

'Hwb aruthrol'

Ond yn ôl Ken Skates, arweinydd Llafur yng Nghymru, mae'r gyllideb yn ei chyfanrwydd yn rhoi "hwb aruthrol" i wasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru.

"Bydd ein hawdurdodau lleol yn croesawu’r cyllid ychwanegol hwn, ac mae angen i Blaid Cymru sicrhau ei fod yn cyrraedd y mannau lle mae ei angen fwyaf," meddai Mr Skates.

"Mae ein Haelodau Seneddol yn Llafur Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr yn San Steffan i sicrhau’r canlyniadau gorau i Gymru".

Adleisiodd Mr Skates eiriau Mr Healey, wnaeth alw yn uniongyrchol ar lawr y Senedd ar Lywodraeth Cymru i efelychu ei addewid i roi £100 tuag at filiau ynni’r gaeaf hwn i 20 miliwn o aelwydydd yn Lloegr sydd ym mandiau A-D treth y cyngor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.